Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Datblygu arweinyddiaeth a pherthnasoedd cefnogol i wella lles staff a deilliannau plant

Mae Meithrinfa Little Ferns Glynrhedynog yn rhan o The Fern Partnership a sefydlwyd yn 2014.

Teachers helping children with their drawings

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Little Ferns Glynrhedynog yn rhan o The Fern Partnership a sefydlwyd yn 2014. Mae wedi bod yn darparu gofal plant o ansawdd uchel mewn sawl lleoliad gofal plant Little Ferns o gwmpas Rhondda Cynon Taf, sy’n cynnwys meithrinfeydd dydd, cynlluniau gwyliau, gofal cofleidiol a mentrau Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Dechrau’n Deg a gofal plant 30 awr.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn rhoi medrau priodol i ddarpar arweinwyr i’w galluogi i gyflawni rolau arwain yn llwyddiannus, sy’n cynnal gweithlu sy’n llawn cymhelliant ac yn hynod fedrus. Mae datblygu arweinwyr ar bob lefel yn sicrhau gwelliant cynaledig y sefydliad.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gan y lleoliad weithdrefnau trylwyr ar waith i reoli perfformiad pob un o’r ymarferwyr a’r arweinwyr. Mae arweinwyr yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cael cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant effeithiol. Mae’r lleoliad yn annog staff i deimlo’u bod wedi’u grymuso i gymryd cyfrifoldeb am eu harfer eu hunain, er enghraifft wrth arwain gwahanol fentrau. 

Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu’r tîm cyfan. Mae hyn yn meithrin diwylliant o berchnogaeth ar y cyd sy’n ysbrydoli ymarferwyr ac yn eu cymell yn eithriadol o dda. O ganlyniad, mae staff yn fodlon yn eu rolau a cheir ychydig iawn o drosiant staff. Mae arweinwyr yn adolygu perfformiad ymarferwyr a’u cynnydd yn y swydd yn effeithiol ac yn rheolaidd. Mae hyn yn galluogi staff i flaenoriaethu meysydd i’w gwella a chadw cofnod o gynnydd mewn cynlluniau datblygiad personol a chynlluniau gyrfa. Mae arweinwyr yn credu bod hyn wedi arwain at waith tîm a boddhad swydd hynod effeithiol, tra’n mynd i’r afael ag anghenion datblygu’r lleoliad yn llwyddiannus. 

Mae’r lleoliad yn darparu mynediad at gymorth priodol ar gyfer ymarferwyr sy’n wynebu gwahanol heriau, ac mae arweinwyr bob amser ar gael i drafod pethau gyda nhw. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn galluogi arweinwyr i gynorthwyo ymarferwyr ag ystod o agweddau fel rheoli dyledion a phatrymau gweithio hyblyg. Mae gan lawer o’r staff blant eu hunain ac maent yn gweithio gyda nhw i gefnogi eu hanghenion gofal plant, gan gynnwys cyfraddau gostyngol yn y meithrinfeydd. Mae arweinwyr yn addasu eu patrymau gwaith ac yn rhoi amser i ffwrdd yn lle, yn ogystal â gwyliau blynyddol wedi’u talu. Maent yn gweithio’n galed i gefnogi lles staff ac yn dangos gwerthfawrogiad o’u gwaith caled. Er enghraifft, mae’r lleoliad yn dathlu cyflogai’r mis, y gall rhieni ac ymarferwyr bleidleisio drosto. Mae ymarferwyr sy’n derbyn y wobr hefyd yn derbyn cymhelliad bach. Trwy gydol y flwyddyn, mae arweinwyr yn darparu arolygon lles sy’n annog ymarferwyr i rannu eu barn am wahanol elfennau o’r ddarpariaeth. Ymatebodd arweinwyr i farn ymarferwyr trwy ddarparu ystafell staff ag ystod o gyfleusterau ac amrywiaeth o wahanol ffrwythau. Maent hefyd yn darparu cwpwrdd bwyd, y gall staff gael mynediad ato yn ddienw os oes angen. 

Mae arweinwyr yn annog ymarferwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau lles rheolaidd. Er enghraifft, mae aelod o staff yn coginio ar gyfer y tîm gan ddefnyddio cyfleusterau’r gegin a bwyd o’r gyllideb lles. Dyfarnwyd y safon aur i’r lleoliad ar gyfer Cymru Iach ar Waith o ganlyniad i’r gwaith i gefnogi lles corfforol ac emosiynol ymarferwyr. 

Mae’r lleoliad wedi sefydlu blwch lles o fewn ystafell yr ymarferwyr, ac ystafell ymolchi sy’n cynnwys nwyddau mislif. Ar ôl arolygiadau, mae arweinwyr yn gwobrwyo ymarferwyr â chymhellion i ddangos gwerthfawrogiad o’u holl waith caled. Maent yn cynnal llawer o weithgareddau i sicrhau bod ymarferwyr yn wybodus am bwysigrwydd lles. Adeg y Nadolig, mae arweinwyr yn gwobrwyo staff â thalebau archfarchnad i gynnal morâl ar adeg sydd wedi dod yn gynyddol heriol oherwydd yr argyfwng costau byw.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r arfer wedi cael effaith sylweddol ar yr holl ddarpariaeth yn y feithrinfa. Mae pob un o’r ymarferwyr yn weithwyr proffesiynol medrus ac yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. O ganlyniad, mae ychydig iawn o drosiant staff yn y lleoliad. Maent yn awyddus i ddatblygu eu medrau ac eisiau cyflawni’r deilliannau gorau posibl ar gyfer y plant. Mae arweinwyr yn cynorthwyo ymarferwyr i elwa ar wahanol gyfleoedd dysgu proffesiynol, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu medrau a’u darpariaeth ar gyfer plant.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn croesawu ymarferwyr o feithrinfeydd eraill o fewn yr awdurdod lleol i rannu arfer mewn grymuso lles ymarferwyr.