Darparu cyfleoedd chwarae dysgu trwy brofiad o ansawdd uchel
Mae gan y lleoliad ystod eang o weithgareddau dysgu difyr a diddorol sy’n helpu datblygu medrau plant wrth sicrhau cyfleoedd iddynt ddilyn eu cyfareddion a’u diddordebau.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Crossway Nursery yn credu mewn ymagwedd gyfannol integredig at ofal plant. Mae’n cynnig profiadau dilys a bywyd go iawn sy’n dilyn diddordebau plant ac yn annog annibyniaeth ac archwilio. Mae wedi creu amgylchedd cartrefol naturiol a niwtral gan ddod â’r tu allan y tu mewn, gan annog gofal a pharch am natur a’r amgylchedd. Mae amrywiaeth o gyfleoedd chwarae ar gael, yn cynnwys coginio a garddio. Mae’r lleoliad yn darparu llawer o brofiadau chwarae anniben a phenagored gan ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau naturiol, y gall plant eu defnyddio’n annibynnol trwy gydol y dydd. Mae hyn yn eu cynorthwyo i ddatblygu hyder a dilyn eu diddordebau eu hunain. Mae plant yn dysgu, yn ymchwilio, yn archwilio, yn datblygu, yn magu hyder, yn meithrin perthnasoedd, yn gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl ac yn dysgu ymwybyddiaeth foesol ac ysbrydol tra’n chwarae mewn amgylchedd cartrefol, diogel a hapus. Mae gan y lleoliad gysylltiadau cymunedol cryf a pherthnasoedd da â phlant a’u teuluoedd, sy’n cefnogi dysgu plant yn llwyddiannus. Mae’n lleoliad bach a chlyd, sydd wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 10 o blant rhwng 18 mis oed a phedair blwydd oed. Mae Crossway Nursery wedi’i leoli yng nghanol Caldicot mewn eiddo bach, sengl. Mae gardd fach yn y tu blaen a gofod chwarae mwy yn y cefn, sy’n cynnwys teganau ac adnoddau. Caiff plant fynediad at ardaloedd yn yr awyr agored bob dydd, ac fe gaiff y rhain eu harchwilio trwy gydol y dydd, ochr yn ochr â thripiau i’r parc, y llyfrgell neu’r castell lleol, sydd wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded. Mae dwy ystafell chwarae o fewn yr eiddo sy’n cynnwys cyflenwad da o deganau, ac adnoddau amrywiol i alluogi chwarae a meithrin creadigrwydd. Mae’r lleoliad yn darparu adnoddau sy’n adlewyrchu ystod o ddiwylliannau ac offer i weddu i bob grŵp oedran. Mae ganddo ofod hefyd i fwynhau gweithgareddau chwarae anniben a gwlyb, ac mae ei ystafell chwarae lai yn ardal drosiannol dawel lle gall plant orffwys neu gysgu yn ystod y dydd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r lleoliad yn ymfalchïo mewn hyrwyddo dysgu gweithredol trwy brofiad. Mae’n cynllunio ystod eang o weithgareddau dysgu difyr a diddorol sy’n helpu datblygu medrau plant tra’n sicrhau cyfleoedd iddynt ddilyn eu cyfareddion a’u diddordebau. Mae dysgu am wahanol dymhorau a’r tywydd yn bwysig iawn i’r lleoliad. Ymestynnir hyn trwy archwilio llyfrau a storïau, helfeydd chwilod, casglu dail, a sylwi ar newidiadau yn yr amgylchedd o’n cwmpas. Mae ymarferwyr yn credu bod annog cyfathrebu yn hanfodol ac maent yn canolbwyntio ar ofyn cwestiynau sy’n annog plant i wneud penderfyniadau pwrpasol am eu chwarae.
Mae ymarferwyr yn darparu cyfleoedd cyffrous i blant archwilio a datrys problemau. Maent yn annog medrau cyfathrebu trwy roi digonedd o amser iddynt feddwl a siarad â’i gilydd. Mae teganau ac adnoddau yr un mor bwysig gan eu bod yn ymestyn ymchwilio a’r dychymyg. Caiff plant gyfleoedd i ddefnyddio adnoddau diddorol a heriol i ddatblygu eu dysgu, fel chwyddwydrau i edrych ar hadau, a phestl a mortar i falu a chymysgu hadau a pherlysiau ffres o’r ardd. Mae cael cyfle i elwa ar ddeunyddiau naturiol fel cerrig, pren, bambŵ, mwclis a gwrthrychau bywyd go iawn fel blodau tymhorol, ffrwythau a llysiau, yn ymestyn eu dysgu’n fawr.
Yn yr hydref, mae’r lleoliad yn cynnwys llawer o goncyrs, moch coed, dail, pwmpenni a gwreiddlysiau eraill yn y rhan fwyaf o weithgareddau cynlluniedig trwy gydol y tymor. Mae’r gwrthrychau hyn yn rhoi digonedd o gyfleoedd i blant fod yn greadigol a’u defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd dychmygus. Mae’r lleoliad yn darparu adnoddau fel chwyddwydrau, camerâu, clipfyrddau ac offer creu marciau gydag oedolyn sy’n galluogi dysgu yn gofyn cwestiynau penagored fel "beth wyt ti’n meddwl yw hwn?", "wyt ti’n ei hoffi?" "ar gyfer beth gellid ei ddefnyddio?" Mae hyn yn annog plant i feddwl mewn ffyrdd newydd a datrys problemau, a dechrau deall achos ac effaith. Trwy brofi a methu, maent yn magu hyder i fynegi eu hunain ac ennill dealltwriaeth well o’r byd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Caiff darparu amgylchedd dysgu cyfoethog ei ymestyn trwy sicrhau bod plant yn cael digonedd o gyfleoedd i wneud penderfyniadau, gofyn cwestiynau a datrys problemau. Caiff arsylwadau o ddiddordebau, cyfareddion a sgemâu pob plentyn eu cynnwys mewn gweithgareddau cynlluniedig gyda llawer o gynllunio ymatebol sy’n cael ei arwain gan y plentyn. Mae arsylwadau o amgylch sgemâu yn sicrhau bod oedolion sy’n galluogi dysgu yn ymateb i anghenion unigol plant.
Er enghraifft, yn yr ardd, mae ymarferwyr yn trefnu gweithgaredd yn y gegin fwd, sy’n cynnwys ystod o wahanol offer. Maent yn gofyn i’r plant sut gallent ddefnyddio’r offer mewn gwahanol ffyrdd ac yn ymchwilio i sut y gallent ddefnyddio gwahanol gynwysyddion i symud dŵr o un lle i’r llall. Maent yn mwynhau gwneud te gyda’i gilydd, ac yn datblygu hyder i gydweithio gyda’i gilydd i ddatrys eu problema
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Bob dydd, mae’r plant yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a phrofiadau difyr a fydd yn ymestyn ac yn datblygu’r holl feysydd dysgu a datblygu. Nod ymarferwyr yw bod yn gyfannol yn eu hymagwedd at ddysgu, gan gefnogi a datblygu’r “plentyn cyfan”. Maent yn annog y plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau ioga, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar syml hefyd.
Caiff plant gyfle i fwynhau gweithgareddau coginio a pharatoi eu byrbryd eu hunain gan ddefnyddio medrau echddygol manwl ymarferol, asesu risg a datblygu annibyniaeth. Caiff plant fynediad at yr amgylchedd awyr agored trwy gydol y dydd. Cânt fynediad at adnoddau a datblygu eu medrau corfforol trwy adeiladu gyda chratiau a phlanciau. Maent yn chwarae ar feiciau neu sgwteri ac yn rhoi cynnig ar dyfu eu planhigion eu hunain. Er mwyn i blant ddod yn archwilwyr hyderus, mae ymarferwyr yn caniatáu iddynt wneud dewisiadau a phenderfyniadau am eu dysgu. Mae hyn yn ymestyn hyder ac annibyniaeth plant, ac yn cefnogi eu lles yn llwyddiannus hefyd.
Mae hyrwyddo ac annog annibyniaeth a hyder ymhlith plant yn ymestyn ymdeimlad o berthyn. Mae ymagwedd gadarnhaol gan oedolion galluogol yn effeithio ar les y plant. Mae modelu arferion ac ymddygiad da gan oedolion yn annog plant i ymddwyn mewn ffordd debyg. Mae ymarferwyr yn annog plant i siarad â’i gilydd, ac maent yn siarad am fod yn garedig gyda ffrindiau a theulu.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn rhoi gwybodaeth i rieni am destunau a meysydd i’w datblygu y mae’n bwriadu canolbwyntio arnynt gan ei fod o’r farn fod hyn yn rhoi cyfle i rieni gael eu cynnwys yn weithredol yn nysgu a datblygiad eu plentyn. Mae Crossway Nursery yn sicrhau bod pob un o’r plant yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi trwy feithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant, rhieni a brodyr a chwiorydd. Mae ymarferwyr yn gwrando’n astud ar feddyliau, syniadau, awgrymiadau a storïau plant, gan ymateb yn ystyriol ac yn sensitif i blant bob amser. Mae croesawu pob un o’r plant â’r un cyfarchiad a gwên gynnes ar ddechrau pob diwrnod yn hollbwysig. Mae ymarferwyr yn canmol plant am eu cyflawniadau a’u hymdrechion ac yn gwerthfawrogi diwylliannau a chefndiroedd unigol pawb. Mae gan y lleoliad amrywiaeth o deganau ac adnoddau amlddiwylliannol yn yr ystafell chwarae, ac mae’n cyflenwi byrbrydau a phrydau bwyd sy’n adlewyrchu ystod eang o ddiwylliannau. Mae’n arddangos gwaith celf a dyfyniadau gan y plant. Mae ymarferwyr yn cyfarfod â rhieni a gofalwyr yn rheolaidd i drafod datblygiad plant ochr yn ochr ag arsylwadau misol ar y cyd â rhieni trwy ddefnyddio’r ap teuluoedd.