Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Claire Protheroe

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Claire Protheroe ydw i, Rheolwr Cenedlaethol Cymru i PACEY Cymru, y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar.

Claire Protheroe

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n arwain ac yn rheoli gwaith PACEY yng Nghymru sy'n cynnwys meithrin a chynnal cydberthnasau strategol â phartneriaid allweddol a darparu arweinyddiaeth a sgiliau cynllunio busnes i'r sefydliad yng Nghymru mewn llawer o feysydd allweddol. Rwyf hefyd yn cynrychioli consortiwm Cwlwm ar y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Mae gen i sawl blwyddyn o brofiad yn y sector gofal plant a'r blynyddoedd cynnar ac rwyf wedi ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi yn y sector, gan gynnwys gweithio fel gwarchodwr plant cofrestredig a helpu lleoliadau mewn ffordd ymarferol cyn symud i swyddi ar lefel fwy strategol.

Beth sy'n bwysig i fi

  • Sicrhau bod y sector gofal plant a chwarae yn cael ei gynrychioli ac y caiff ei lais ei glywed.
  • Helpu AGC i ymgysylltu â'r sector er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson, agored a thryloyw.
  • Dylanwadu ac ysgogi gwelliannau.
  • Rhannu arferion da er mwyn helpu i wella ansawdd.