Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Bodloni anghenion y plant unigol wrth sicrhau eu bod yn rhan o’r Cylch

Mae ymarferwyr yn credu’n gryf mewn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yn y Cylch ac yn ceisio cefnogi plant ag anghenion unigol i ddatblygu eu llawn botensial.

boy playing sensory box dinosaur world kinetic sand table

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Plas Coch, Cylch Meithrin Hill Street gynt, wedi’i leoli mewn adeilad symudol ar safle Ysgol Plas Coch. Ar hyn o bryd, mae ganddo 16 o blant, dau aelod staff amser llawn ac un aelod staff rhan-amser. Mae ganddo rieni Saesneg, yn bennaf, ynghyd â nifer fach o deuluoedd Cymraeg eu hiaith. Mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n mynychu’r Cylch yn symud ymlaen i’r dosbarth meithrin yn yr ysgol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r Cylch yn ceisio sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y plant unigol wrth sicrhau eu bod yn rhan o’r Cylch. Ei nod yw bod y plant yn cyd-chwarae’n hapus â’i gilydd a bod pob plentyn yn cael yr un cyfleoedd i archwilio, tyfu a datblygu yn yr amgylchedd naturiol sydd newydd ei ddatblygu. Mae ymarferwyr yn credu’n gryf mewn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yn y Cylch ac yn ceisio cefnogi plant ag anghenion unigol i ddatblygu eu llawn botensial.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn ystod yr arolygiad ar y cyd diweddar gan Estyn/CIW, cydnabuwyd y lleoliad am ei arfer dda o ran creu amgylchedd cynhwysol i blant ag anghenion unigol ychwanegol. Mae cyfarfodydd tîm rheolaidd i drafod y plant er mwyn addasu arfer a darpariaeth yn ôl eu hanghenion. 

Yn ddiweddar, mae’r lleoliad wedi datblygu’r canlynol: trefn arferol, meysydd diddordeb a gwahoddiadau i ddysgu ar sail diddordebau’r plant. Mae wedi sefydlu ardal byd bach deinosoriaid o rilenni er mwyn i blentyn allu chwarae’n agos at yr ardal hunangofrestru ac amser stori. Mae ymarferwyr hefyd wedi addasu amser croeso i fod yn fyrrach ac wedi defnyddio lluniau mawr, sy’n golygu y gall y gweithgaredd o ddewis lluniau gael ei gwblhau’n annibynnol ac yn gyflym.

Mae’r lleoliad hefyd wedi ymestyn chwarae rhydd yn ystod y sesiwn er mwyn rhoi amser i’r plant archwilio a chwarae’n annibynnol yn yr ardaloedd heb darfu ar eu chwarae. Mae hyn yn gweithio’n dda ac mae plant ag anghenion ychwanegol wedi ymgartrefu’n fwy ac yn hapusach wrth chwarae. Mae ymarferwyr wedi addasu elfen o’u sesiynau ioga dyddiol hefyd er mwyn i un plentyn gael cyfle i archwilio symudiadau y tu allan, gan ganiatáu i’r plant eraill fwynhau’r profiad. Ychwanegwyd blychau bach o ‘ddarnau rhydd’ i’r amgylchedd hefyd i ennyn diddordeb y plant.
 
Mae’r lleoliad wedi cydweithio’n agos â rhieni a gofalwyr i gwblhau proffiliau un-dudalen i ddatblygu cynlluniau penodol i blant unigol. Yn yr un modd, mae’r holl aelodau staff yn cael gwybod am bethau sy’n gofidio plentyn neu nad yw’n eu hoffi er mwyn sicrhau bod profiad pob plentyn yn un hapus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau plant?

Wrth weithio tuag at y cwricwlwm newydd, mae’r lleoliad wedi cyflwyno amgylchedd naturiol sydd â phwyslais ar ddarnau rhydd. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar ddysgu’r plant. Mae ymarferwyr yn teimlo bod hyn wedi caniatáu i’r amgylchedd ganolbwyntio ar y plentyn ac i blant gael profiadau chwarae ar eu lefel a’u cyflymder eu hunain. Bu hyn o fudd i les y plant ac mae wedi rhoi cyfle iddynt lwyddo, sy’n rhan bwysig iawn o addysg gynnar plentyn ifanc. Mae’r holl ymarferwyr yn rhyngweithio’n sensitif â’r plant ac yn ofalus i’w cefnogi yn ôl yr angen, heb ymyrryd yn rhy fuan. Mewn cyfarfodydd staff, mae ymarferwyr yn trafod datblygiad a chynnydd pob un o’r plant mewn medrau gwahanol ac yn siarad am yr hyn y gellir ei wneud i’w hannog a’u cefnogi orau. 

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Yn y gorffennol, mae ymarferwyr wedi rhannu arfer dda â lleoliadau eraill drwy ymweliadau a’r tu allan i’r sir hefyd, wrth i leoliadau ymweld â’u hathrawon ymgynghorol. Maent hefyd yn rhannu arfer ddyddiol â rhieni a gofalwyr drwy dudalen gaeedig ar gyfryngau cymdeithasol ac yn rhannu arfer dda â chyd-ymarferwyr drwy luniau ar dudalen Facebook caeedig ar gyfer Addysg Gynnar a Ariennir yn Sir Wrecsam.