3 Gorffennaf ac 11 Gorffennaf 2024 - Digwyddiadau graddau ar-lein i gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref
Dewch i ymuno â ni i gyfrannu at y ffordd y byddwn yn rhoi graddau ar waith ar gyfer eich gwasanaeth.
Rydym wedi bod yn cynnal cynllun peilot ar gyfer graddau heb eu cyhoeddi neu raddau mud ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref ers cryn amser a gwnaethom gomisiynu cwmni gwerthuso annibynnol yn ddiweddar i adolygu'r cynllun peilot. Diben y gwerthusiad hwn oedd deall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn sydd angen i ni ei newid a'i wella er mwyn datblygu'r gwaith hwn.
Mae'r cynllun peilot wedi bod yn werthfawr iawn ac rydym yn gobeithio rhannu canlyniadau'r gwerthusiad â phob darparwr yn y dyfodol agos.
Mae'n bwysig bod darparwyr pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref yn cael cyfle gwirioneddol i lywio'r gwaith pwysig hwn, felly rydym yn cydlynu nifer o ddigwyddiadau ar-lein i ddarparwyr er mwyn rhoi cyfle i chi drafod canfyddiadau'r adolygiad a'r camau nesaf y dylem eu cymryd.
Dyddiadau i'ch dyddiadur
Digwyddiadau Saesneg
- Dydd Mercher 3 Gorffennaf – sesiynau yn y bore a'r prynhawn
Digwyddiad Cymraeg
- Dydd Iau 11 Gorffennaf – sesiwn yn y prynhawn
Byddwn yn e-bostio darparwyr yn uniongyrchol i roi rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn yn ystod y dyddiau nesaf.