Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Ebrill 2025
  • Newyddion

Adroddiad arolygu ar gyfer gwasanaethau oedolion yng Nghasnewydd wedi'i gyhoeddi

Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad gwasanaethau oedolion Cyngor Dinas Casnewydd.

Cynhaliwyd yr arolygiad hwn rhwng 3 a 7 Chwefror 2025.

Canfyddiadau 

Gwelsom fod arweinwyr gwasanaethu oedolion Casnewydd yn llywio tirwedd gymhleth lle ceir galw uchel, anghenion cynyddol gymhleth, a phwysau cyllidebol sylweddol. Maent yn deall nodweddion a heriau unigryw eu cymuned, ac mae hyn yn eu galluogi i roi cynlluniau strategol ar waith sy'n cyfateb adnoddau ag anghenion a risgiau a nodwyd. 

Mae'r ymarferwyr yng ngwasanaethau oedolion Casnewydd yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad cadarn i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Adlewyrchir yr ymrwymiad hwn yn niwylliant cadarnhaol y gweithlu, a dywedodd 95% o'r staff a ymatebodd i'n harolwg y byddent yn argymell Casnewydd fel lle i weithio. Nododd y staff fod yr arweinyddiaeth gefnogol, y natur gynhwysol a'r pwyslais ar lesiant cyflogeion yn ffactorau allweddol a oedd yn cyfrannu at eu profiad cadarnhaol yn y gwaith.

Mae ein hadroddiad yn amlinellu meysydd o ymarfer cadarnhaol yng ngwasanaethau oedolion Casnewydd, gan gynnwys arferion diogelu cadarn, ymrwymiad cryf i atal a darparu help cynnar, a  chydweithio amlasiantaethol effeithiol. Mae gwasanaethau oedolion Casnewydd yn dangos ymrwymiad i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, gyda phartneriaethau cadarn sy'n gwella'r gofal a'r cymorth integredig a ddarperir. Mae'r arferion diogelu yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol, ac mae'r ffocws ar atal yn helpu i atal anghenion critigol rhag dwysáu. 

Ymhlith y meysydd i'w gwella mae lleihau amseroedd aros am asesiadau ac adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth, mynd i'r afael ag oedi cyn ymateb i geisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth, gwella ansawdd a natur fyfyriol goruchwyliaeth ffurfiol, cysoni prosesau sicrhau ansawdd a gwella'r broses o gofnodi cynigion eirioli.

Y camau nesaf 

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru. 

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.