Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Ebrill 2025
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Ceredigion

Yn ystod mis Mai, byddwn yn cynnal gwiriad gwella o adran gwasanaethau cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Ceredigion.

Diben y gwiriad fydd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.  

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Ceredigion, hoffem glywed am eich profiadau. 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 6 Mai 2025. 

Caiff ein llythyr canfyddiadau ar gyfer y gwasanaethau hyn ei gyhoeddi ar ein gwefan.