97% o ddarparwyr gofal plant a chwarae yng Nghymru yn cwblhau eu hunanasesiad
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod yr ymateb i'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth wedi bod yn anhygoel eleni, gyda 2,654 o ddarparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru yn cyflwyno eu hasesiadau.
Mae hon yn ganran uchel iawn, sef 97% o'r holl ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru.
Mae'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn adnodd hollbwysig sy'n galluogi darparwyr i fyfyrio ar y gwasanaeth a ddarperir ganddynt ac i nodi meysydd i'w gwella, gan ar yr un pryd ddarparu data gwerthfawr sy'n helpu i gynllunio a datblygu'r sector cyfan.
Mae'r gyfradd gwblhau uchel hon yn arwain at y canlynol:
Cynllunio arolygiadau yn fanylach: Gan fod y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth ar gael, gallwn gynllunio amserlenni arolygu a chyfarfodydd ansawdd yn well, gan sicrhau bod trefniadau goruchwylio rheoleiddiol yn parhau'n berthnasol ac yn gymesur.
Cyfeiriadur gwasanaethau manylach: Gall teuluoedd sy'n chwilio am wasanaethau gofal plant a chwarae bellach gael gafael ar wybodaeth gyfredol a chywir drwy gyfeiriadur ein gwasanaethau, a fydd yn eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus.
Datblygu polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau polisi sy'n ymwneud â meysydd pwysig fel cymwysterau proffesiynol, darpariaeth Gymraeg, a chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Ymrwymiad i ansawdd
Mae'r gyfradd ymateb eithriadol yn dangos ymrwymiad parhaus darparwyr i gynnal safonau uchel ac i wneud gwelliannau parhaus yn y sector gofal plant a chwarae.
Dywedodd Ceri Herbert, pennaeth y tîm gofal plant a chwarae,
"Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r holl ddarparwyr a roddodd o'u hamser i gwblhau eu Hunanasesiad. Mae'r gyfradd gwblhau ardderchog hon yn dangos ymrwymiad ein gweithlu gofal plant a chwarae i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i blant a theuluoedd ledled Cymru."
Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn helpu i lywio cymorth yn y dyfodol i'r sector ac yn sicrhau bod gweithgareddau rheoleiddiol yn dal i ganolbwyntio ar y meysydd sydd bwysicaf o ran llesiant a datblygiad plant.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau gofal plant a chwarae yn eich ardal, edrychwch ar ein cyfeiriadur gwasanaethau.