Lansio graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru
O 1 Ebrill 2025, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ddarparwyr gofal arddangos y graddau a ddyfarnwyd iddynt gan AGC, sy'n gam sylweddol ymlaen wrth wella tryloywder a helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am wasanaethau gofal.
Gofal o ansawdd, dewisiadau clir
Nod y system graddau newydd yw grymuso pobl pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch gofal iddyn nhw neu i aelodau o'u teulu a'u ffrindiau. Bydd graddau yn cael eu dyfarnu ar draws pedair thema allweddol:
- Llesiant - Sut mae'r gwasanaeth yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol y bobl, eu hawliau, eu hannibyniaeth, a'u cydberthnasau.
- Gofal a chymorth - Ansawdd a phriodolrwydd y gofal a ddarperir i ddiwallu anghenion unigol.
- Arweinyddiaeth a rheolaeth - Pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg, gan gynnwys cymorth i staff a phrosesau sicrhau ansawdd.
- Yr Amgylchedd - Addasrwydd a diogelwch ardaloedd ffisegol a'r trefniadau cynnal a chadw (ar gyfer gwasanaethau llety yn unig).
Bydd un o bedair gradd yn cael ei dyfarnu i wasanaethau ar gyfer pob thema:
- Rhagorol
- Da
- Rhaid gwella
- Rhaid gwella'n sylweddol
Manteision graddau
Mae'r broses o gyflwyno graddau yn cynnig sawl mantais allweddol:
- Gwybodaeth dryloyw - Gwybodaeth glir a hygyrch am ansawdd y gofal a ddarperir
- Cymorth i wneud penderfyniadau - Helpu pobl i gymharu gwasanaethau wrth wneud dewisiadau gofal pwysig
- Hyrwyddo safonau uchel - Annog gwelliant parhaus ym mhob rhan o'r sector
- Tawelwch meddwl - Mwy o hyder wrth ddewis gwasanaethau gofal i anwyliaid
Y manteision i ddarparwyr gofal
Mae'r system graddau hefyd yn cynnig manteision pwysig i ddarparwyr gofal:
- Cydnabod rhagoriaeth - Cyfle i arddangos gofal o ansawdd uchel a gwasanaeth ymroddedig
- Nodi cryfderau - Adborth clir ar yr hyn sy'n gweithio'n dda o fewn gwasanaethau
- Gwelliant wedi'i dargedu - Arweiniad penodol ar feysydd i'w datblygu
- Cymell staff - Cydnabod timau sy'n darparu gofal rhagorol
- Enw gwell - Y cyfle i arddangos ansawdd i ddarpar ddefnyddwyr y gwasanaeth
Nododd Prif Arolygydd AGC, Gillian Baranski: "Mae ein system graddau newydd yn rhoi pobl wrth wraidd y broses o asesu ansawdd gofal. Drwy ganolbwyntio ar y canlyniadau sydd bwysicaf i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, ein nod yw ysgogi gwelliannau sy'n gwella bywydau a llesiant pobl, gan ar yr un pryd gydnabod y gofal rhagorol sydd eisoes yn cael ei ddarparu ledled Cymru."Canllawiau ac adnoddau
Er mwyn cefnogi'r broses o roi'r graddau ar waith, mae AGC wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau:I ddarparwyr gofal:
- Paratoi ar gyfer graddau: Eich rhestr wirio cyn lansio - Canllaw ymarferol er mwyn helpu darparwyr i baratoi.
- Fframwaith ar gyfer Arolygu gan gynnwys graddau - Canllawiau cynhwysfawr ar sut y caiff graddau eu dyfarnu
- Canllaw i arddangos graddau - Gwybodaeth fanwl am y gofynion cyfreithiol ar gyfer arddangos graddau ar ffurf ffisegol ac ar-lein
I'r cyhoedd:
- Canllaw deall graddau gofal - Yn esbonio beth y mae'r graddau yn ei olygu a sut y gallant helpu wrth wneud penderfyniadau
- Cyfeiriadur ar-lein - Cronfa ddata y gellir chwilio drwyddi o wasanaethau gofal a'u graddau
Y gofynion cyfreithiol o ran arddangos graddau
O dan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 (Dolen allanol), mae'n rhaid i bob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref arddangos ei raddau ar ei wefan (os bydd ganddo wefan). Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o wasanaethau arddangos eu graddau yn eu gwasanaeth hefyd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u heithrio rhag arddangos poster yng nghyfeiriad eu gwasanaeth:
- Gwasanaethau ar gyfer pobl dan 18 oed
- Gwasanaethau bach â 4 preswylydd neu lai (oni bai eu bod yn dewis arddangos graddau)
- Gwasanaethau cymorth cartref lle nad yw lleoliad y gwasanaeth yn hygyrch i aelodau o'r cyhoedd, neu lle darperir y gwasanaeth o gartref preifat unigolyn
- Gwasanaethau cymorth cartref lle nad yw lleoliad y gwasanaeth yn hygyrch i aelodau o'r cyhoedd, neu lle darperir y gwasanaeth o gartref preifat unigolyn
Byddwch hefyd yn gallu gweld graddau ar gyfeiriadur AGC.I gael rhagor o wybodaeth am raddau, ewch i'n tudalen graddau.