Datganiad Blynyddol 2025: Nawr ar agor ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganiad yw 26 Mai 2025.
Mae'r Datganiad Blynyddol bellach ar gael i Unigolion Cyfrifol ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant ei gwblhau gan ddefnyddio eu cyfrif AGC Ar-lein.
Beth yw Datganiad Blynyddol?
Ffurflen ar-lein yw'r Datganiad Blynyddol y mae'n rhaid i'r darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant canlynol ei chwblhau bob blwyddyn:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
Beth rydym yn ei wneud â'r data?
Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni drwy gyflwyno eu Datganiad Blynyddol yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau a rhoi'r help a'r cymorth cywir i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Caiff y data o bob cwr o Gymru eu coladu, eu gwneud yn ddienw a'u cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2025.
Gallwch edrych ar ddata'r llynedd ar ein tudalen offer data.
Gwybodaeth bwysig i bob gwasanaeth oedolion a phlant:
- Os ydych yn rhedeg gwasanaeth oedolion neu blant, mae'n ofyniad cyfreithiol i chi gwblhau eich Datganiad Blynyddol erbyn 26 Mai 2025.
- Yr Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu'r swyddog/swyddogion sefydliadol sydd wedi actifadu ei gyfrif/eu cyfrif AGC Ar-lein ddylai gwblhau a chyflwyno'r Datganiad Blynyddol.
- Os nad ydych wedi actifadu eich cyfrif ar-lein yn llawn, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.
- Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, mae angen i chi weithredu ar frys:
- ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol) neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4
Cymorth a chanllawiau
Rydym wedi creu fideo byr sy'n dangos sut i gwblhau eich Datganiad Blynyddol, yn ogystal â chyfarwyddiadau manwl i'ch helpu. Mae'r rhain ar gael ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.
Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau eich Datganiad Blynyddol, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126.