Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 17 Mawrth 2025
  • Newyddion

Rhannwch eich barn am wasanaethau mabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Os ydych wedi derbyn gwasanaethau mabwysiadu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro neu Bowys, hoffem glywed gennych.

Rhwng 28 Ebrill a 2 Mai 2025, byddwn yn arolygu gwasanaethau Cydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy'n darparu gwasanaethau mabwysiadu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. 

Rydym am ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio i bawb sy'n ymwneud â nhw. Bydd eich profiadau a'ch adborth yn ein helpu i werthuso ansawdd gwasanaethau a nodi lle y gellid gwneud gwelliannau. 

Pwy rydym am glywed ganddynt

Rydym yn croesawu adborth gan blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu, rhieni sydd wedi mabwysiadu, pobl sydd wrthi'n cael eu hasesu fel rhieni i fabwysiadu a theuluoedd genedigol. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu yn yr ardaloedd hyn. 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 17 Ebrill 2025.

Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 i gael help i'w gwblhau dros y ffôn.

Yn dilyn ein harolygiad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad am wasanaethau mabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd hyn yn rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau mabwysiadu ledled Cymru. Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwelliannau.