Gwiriad gwella o wasanaethau oedolion Cyngor Gwynedd yn nodi cynnydd cadarnhaol, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol
Gwnaethom gynnal y gwiriad gwella hwn rhwng 14 ac 16 Hydref 2024.
Er bod gwasanaethau oedolion Cyngor Gwynedd wedi gwneud rhai gwelliannau ers ein harolygiad yn 2022, nodwyd gennym fod angen cymryd camau pellach o hyd mewn sawl maes allweddol.
Mae gan yr awdurdod lleol dîm arwain sefydlog a phrofiadol sydd wedi rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith. Mae'r arweinwyr wedi gweithio i osod cyfeiriad clir, wedi'u cynorthwyo gan staff cymwys sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan y tîm rheoli a'u cydweithwyr.
Nodwyd gennym fod rolau gweithwyr proffesiynol megis gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol bellach yn fwy sefydlog, ond mae heriau o hyd wrth sicrhau bod digon o weithwyr gofal cartref.
Fodd bynnag, mae pobl yn parhau i wynebu oedi wrth gael asesiadau ac adolygiadau o'u cynlluniau gofal a chymorth. Er y bu gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros am ofal cartref ers ein harolygiad diwethaf, mae'r amseroedd aros yn hir o hyd i lawer o ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mae'r awdurdod lleol yn derbyn cymorth corfforaethol o hyd, ac mae angen parhau â hynny er mwyn sicrhau y caiff cynnydd ei gynnal a bod digon o adnoddau yn cael eu darparu ar gyfer y meysydd y mae angen eu gwella.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd y nodwyd bod angen eu gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.
Rydym yn croesawu ymdrechion gan yr awdurdod lleol i rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd gydag awdurdodau lleol eraill, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
Disgwylir i’r awdurdod lleol gyflwyno’r llythyr hwn i aelodau etholedig a’i wneud yn destun proses graffu gyhoeddus drwy gyfarfod pwyllgor ffurfiol ac agored cyn gynted â phosibl. Dylid hefyd estyn gwahoddiad i AGC fynychu'r cyfarfod.