Ein canfyddiadau o'n gwiriad sicrwydd o wasanaethau oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwnaethom gynnal y gwiriad sicrwydd hwn rhwng 25 a 27 Tachwedd 2024.
Canolbwyntiodd y gwiriad sicrwydd hwn ar wasanaethau oedolion ac adolygwyd perfformiad Caerffili wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â deddfwriaeth.
Canfyddiadau
Gwnaethom nodi bod y staff yn falch o'r gwaith y maent yn ei wneud a'r canlyniadau y maent yn eu cyflawni i bobl. Dywedodd un aelod o staff wrthym: “I am incredibly well supported in my role. The manager and senior staff are exceptional. It is a pleasure to come to work." Roedd yr ymarfer cadarnhaol hwn a'r farn gadarnhaol hon ymhlith y staff i'w gweld ar draws y gwasanaethau oedolion.
Mae'r awdurdod lleol yn gweithio'n dda gyda sefydliadau partner i sefydlogi a llywio'r farchnad gofal cymdeithasol. Mae'r arweinwyr yn ymchwilio i ddulliau gweithredu arloesol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau, gan hyrwyddo effeithlonrwydd ac arbed costau ar yr un pryd.
Mae gan arweinwyr y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ddealltwriaeth dda o gryfderau'r gwasanaeth a'r meysydd i'w gwella.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd yn ein llythyr a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.
Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.