Byddem yn croesawu eich barn am drefniadau amddiffyn plant yn Sir Benfro
Byddwn yn edrych ar drefniadau amddiffyn plant yn Sir Benfro ym mis Chwefror, ar y cyd ag Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
Diben yr adolygiad (y cyfeirir ato fel Adolygiad gan Arolygiaethau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) fydd cynnal gwerthusiad o'r ffordd mae gwasanaethau lleol ar draws asiantaethau yn ymateb i amddiffyn plant 11 oed neu'n iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Benfro, neu sydd wedi eu cael, neu os ydych chi'n perthyn i blentyn neu berson ifanc o'r fath, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg perthnasol isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 17 mis Chwefror.
- Arolwg ar gyfer plant 11 oed neu'n iau sy'n cael gofal neu gymorth gan adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Benfro neu sydd wedi cael gofal neu gymorth gan yr adran (Dolen allanol)
- Arolwg ar gyfer oedolion sydd wedi rhyngweithio ag adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Benfro (Dolen allanol)
Cefndir
Yn dilyn arolygiadau ar y cyd llwyddiannus blaenorol, bydd rhaglen JICPA 2025/26 yn cynnal adolygiad systemau o drefniadau amddiffyn plant ym mhob un o'r byrddau diogelu rhanbarthol ac ardaloedd yr heddlu yng Nghymru, er mwyn nodi arferion cadarnhaol ac unrhyw feysydd i'w gwella.
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb amlasiantaeth, felly rydym yn gweithio gydag arolygiaethau eraill, sef Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, i gynnal yr arolygiadau hyn.