Canlyniadau'r ymgynghoriad ar raddau arolygu ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref
Yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, bydd system graddau arolygu newydd ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn dod i rym ym mis Ebrill 2025.
Ym mis Gorffennaf, cawsoch wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i rannu eich barn ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025, a fydd yn sefydlu fframwaith ar gyfer graddau arolygu cyhoeddedig ar gyfer cartrefi gofal oedolion a phlant, yn ogystal â gwasanaethau cymorth cartref.
Canfyddiadau
Cafwyd safbwyntiau cymysg ar sawl cynnig mewn ymateb i'r ymgynghoriad, gyda chryn drafodaeth ynghylch y gofyniad i arddangos graddau mewn mathau gwahanol o leoliadau gofal:
- bydd cartrefi gofal llai i oedolion (4 preswylydd neu lai) wedi'u heithrio rhag y gofyniad i arddangos graddau ar safleoedd er mwyn cynnal ymdeimlad "cartrefol"
- bydd cartrefi gofal plant hefyd wedi'u heithrio rhag y gofyniad i arddangos graddau er mwyn amddiffyn preifatrwydd a chynnal amgylchedd teuluol
- ni fydd yn ofynnol i ddarparwyr cymorth cartref arddangos graddau yn eu lleoliadau. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i ddarparwyr arddangos o leiaf un arwydd ym mhob swyddfa lle mae'r gwasanaeth yn gweithredu neu'n gweithredu ohoni.
Yn ôl yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd cefnogaeth hefyd i broses apelio ac i'r cynnig y dylid creu trosedd ar gyfer methu ag arddangos graddau lle y bo'n ofynnol.
Manteision cyflwyno graddau
- nod y system newydd yw gwella tryloywder ond gan barhau i gynnig sensitifrwydd priodol i wahanol leoliadau gofal
- cipolwg cyflym: mae graddau yn rhoi syniad i chi ar unwaith o ansawdd y gofal y gallwch ei ddisgwyl gan wasanaeth
- hyder wrth ddewis: mae graddau yn ei gwneud hi'n haws i chi ddewis gwasanaeth gofal sy'n addas i chi neu aelod o'ch teulu
- llywio gwelliant parhaus: mae graddau yn annog darparwyr gofal i wella eu gwasanaethau, gan sicrhau bod y rhai sy'n cael gofal yn gallu ffynnu.
Y camau nesaf
Caiff y rheoliadau hyn eu gosod gerbron y Senedd ar 28 Ionawr 2025. Os cânt eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar 31 Mawrth 2025.
O'r dyddiad hwn ymlaen, bydd yr holl raddau ar gael ar wefan AGC a gwefannau darparwyr (lle y bo'n gymwys).
Er mwyn gweld y crynodeb llawn o'r ymgynghoriad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).