Bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn fyw ar 31 Ionawr
Yn fuan byddwn yn ysgrifennu at bob darparwr gofal plant a chwarae ynghylch ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2025.
Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?
Ffurflen ar-lein yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae angen i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant.
Beth rydym yn ei wneud â'r data?
Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni drwy gyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau a rhoi'r help a'r cymorth cywir i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Caiff y data o bob cwr o Gymru eu coladu a'u gwneud yn ddienw a'u cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2025. Gallwch edrych ar data y llynedd ar ein tudalen offer data.
Gwybodaeth bwysig i bob darparwr gofal plant a chwarae:
- Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich SASS gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 14 Mawrth 2025.
- Os na fyddwch yn cwblhau eich SASS erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.
- Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich SASS.
- Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, mae angen i chi weithredu ar frys:
- ewch i AGC Ar-lein
- neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru