Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Rhagfyr 2024
  • Newyddion

Ydych chi wedi gweld ein cyfeiriadur gwasanaethau gofal newydd eto?

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi lansio ein cyfeiriadur gwasanaethau gofal newydd a gwell, sy'n ddatblygiad arwyddocaol o ran sut y gellir cael gafael ar wybodaeth am ofal ledled Cymru.

Mae'r llwyfan newydd hwn yn gweithredu fel adnodd cynhwysfawr i'r cyhoedd, darparwyr gofal, arolygwyr ac asiantaethau partner.

Mae nodweddion allweddol y cyfeiriadur newydd yn cynnwys:

  • Gwell swyddogaeth chwilio
  • Diweddariadau amser real er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael
  • Graddau gwasanaethau i'w gweld yn amlwg
  • Adroddiadau arolygu manwl ar gael yn hawdd
  • Swyddogaeth lawrlwytho data newydd ar gyfer asiantaethau partner
  • Y gallu i danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth drwy glicio ar fotwm.
  • Dull syml o roi adborth cadarnhaol neu negyddol am wasanaeth.

Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau gofal, o ddarparwyr gofal plant a chwarae i wasanaethau ar gyfer oedolion hŷn. Mae'n darparu adnodd un stop ar gyfer yr holl wybodaeth am ofal yng Nghymru.

Mae ein penderfyniad i lansio ein cyfeiriadur gwasanaethau newydd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad parhaus i wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau gofal yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymdrech i rymuso dinasyddion drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ofal.