Adroddiad arolygu ar gyfer gwasanaethau plant yn Sir Gaerfyrddin wedi'i gyhoeddi
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o wasanaethau plant Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Hydref 2024.
Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad gwasanaethau plant Sir Gaerfyrddin.
Canfyddiadau
Gwelsom fod trefniadau cydweithio da ar waith ym mhob rhan o'r awdurdod lleol. Ceir gwaith partneriaeth strategol cadarnhaol ynghyd â chymorth corfforaethol ar gyfer nodau cyffredin. Ar lefel weithredol, mae partneriaid yn cydweithio'n dda i ddiwallu anghenion llesiant plant yn ogystal â chadw pobl yn ddiogel.
Yn gyffredinol, mae ffocws cadarnhaol ar blant ar draws asiantaethau partner. Mae staff o sectorau a gwasanaethau gwahanol yn cydweithio'n effeithiol i atal anghenion rhag gwaethygu. Mae partneriaid wedi ymrwymo i gydweithio i ddiogelu plant sy'n wynebu risg o niwed a chamdriniaeth. Mae hyn yn amlwg drwy gyfranogiad cadarnhaol partneriaid mewn cyfarfodydd a thrafodaethau amlasiantaeth pwysig, a cheir ffocws ar gryfderau a risgiau o fewn teuluoedd. Mae angen gwneud rhai gwelliannau i'r broses o gasglu gwybodaeth ynghyd a chofnodi dadansoddiad.
Caiff lleisiau pobl eu clywed, a chaiff eu dewisiadau eu parchu. Mae ymarferwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu cydberthnasau cefnogol a llawn ymddiriedaeth â phobl. Mae tystiolaeth bod llawer o bobl yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.
Adroddiad ar Arolygiad Gwerthuso Perfformiad: Gwasanaethau plant Cyngor Sir Caerfyrddin