Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Tachwedd 2024
  • Newyddion

Mae Angen Cymryd Camau Gweithredu i Wella Cymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc

Mae adroddiad ar y cyd newydd a gyhoeddwyd heddiw gan yr arolygiaethau iechyd, gofal ac addysg yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud gwelliannau ar unwaith i'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Yn ystod ein gwaith, clywsom gan 215 o blant a phobl ifanc, 200 o rieni a gofalwyr yn ogystal â 252 o weithwyr proffesiynol. Dywedodd dros hanner y plant a phobl ifanc rhwng 11 a 16 oed y gofynnwyd iddynt nad oeddent yn gwybod ble i gael cymorth, a dywedodd nifer ohonynt wrthym nad oedd help bob amser ar gael pan roedd ei angen arnynt.

Er bod peth cynnydd wedi'i wneud, mae canfyddiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn nodi bod nifer o blant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd o hyd i gael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymroddiad gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed i gefnogi plant a phobl ifanc, er gwaethaf y cynnydd o ran y galw am wasanaethau. Mae datrysiadau arloesol, fel adnoddau ar-lein a chymorth drwy apiau, ynghyd â lleoliadau croesawgar fel Hybiau Argyfwng a Chaffis Ieuenctid, yn rhoi opsiynau hyblyg i bobl ifanc geisio cymorth. Fodd bynnag, mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir.

Mae ein gwaith wedi dangos bod angen i sefydliadau weithio'n well gyda'i gilydd, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r heriau parhaus o ran cael gafael ar gymorth iechyd meddwl arbenigol ledled Cymru.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Gwella darpariaeth Cymorth ac Atal Cynnar: Mae ysgolion, llwyfannau ar-lein a grwpiau gwirfoddol yn darparu mwy o gymorth iechyd meddwl nag erioed er mwyn atal yr angen am fewnbwn arbenigol gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), ond nid yw rhai plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol o hyd.
  • Bylchau o ran Gofal Arbenigol: Er gwaethaf amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiadau cychwynnol CAMHS, mae gofal dilynol yn her enfawr o hyd i bob plentyn a pherson ifanc. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai gydag anghenion cymhleth, gan gynnwys pobl ifanc niwrowahanol a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal, nad ydynt yn cael gofal amserol ac effeithiol yn aml.
  • Anghysondeb o ran y gallu i gael gafael ar wasanaeth: Mae anghysondebau o ran y meini prawf a'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer cael gafael ar wasanaethau CAMHS, sy'n golygu bod nifer o deuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig gyda'r prosesau cyfathrebu a'r diffyg eglurder ynghylch sut y caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud. Roedd hefyd yn destun pryder nodi nad oedd y rhai sy'n siarad Cymraeg yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith yn hawdd wrth gael gofal a chymorth iechyd meddwl.
  • Cynnydd o ran y Cymorth mewn Argyfwng: Mae mentrau newydd fel Gwasanaethau Noddfa a Hybiau Argyfwng yn cynnig opsiynau amgen i ofal mewn ystafell achosion brys i blant a phobl ifanc mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae galw uchel yn golygu mai dim ond pan fyddant wedi cyrraedd y pen y bydd nifer yn cael gafael ar gymorth o hyd.
  • Beth sydd angen ei newid: Mae'r adroddiad yn codi pryderon am gyllid, prosesau cyfathrebu gwael rhwng gwasanaethau a diffyg gofal cydgysylltiedig. Mae'n galw am bartneriaethau cryfach rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir.

Rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn sicrhau gwelliant i blant, pobl ifanc a'r rhai sydd agosaf atynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael gwell profiad o gael gafael ar wasanaethau fel CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed), gydag amseroedd aros byrrach a chliriach.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: 

"Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl i'n plant a'n pobl ifanc ar unwaith. Er ein bod yn canmol ymroddiad gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu cymorth, mae nifer o blant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt o hyd. Ni allwn ganiatáu i'r ymdeimlad o ddiymadferthwch ymhlith plant a phobl ifanc barhau; dylai pob plentyn wybod ble i fynd i gael help a chymorth amserol, ni waeth lle y mae yng Nghymru.

Mae'r canfyddiadau yn nodi'r cynnydd a wnaed a'r bylchau sylweddol sy'n parhau. Rhaid i ni wella cydweithrediad ymhlith byrddau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn creu system fwy cydgysylltiedig. Nid gwella gwasanaethau yn unig sydd dan sylw yma; rhaid sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cymorth iechyd meddwl cywir sydd ei angen.

Rydym yn ddiolchgar i'r holl blant a phobl ifanc, rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid a gyfrannodd at yr adolygiad hwn.”

Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski:

"Nid ystadegyn yn unig yw cymorth iechyd meddwl i'n plant a'n pobl ifanc; mae'n alwad am weithredu. Mae'n bryder mawr nad yw dros hanner plant a phobl ifanc Cymru yn gwybod ble i gael help. Rydym yn cydnabod y straen sylweddol y mae hyn yn ei roi ar unigolion, teuluoedd a'n gweithwyr proffesiynol ymroddedig ym maes iechyd, addysg a'r awdurdodau lleol. Er bod mentrau fel Hybiau Argyfwng yn cynnig gobaith, mae'n rhaid i ni wneud mwy. Rydym yn ymrwymedig i feithrin system gydweithredol well rhwng gwasanaethau, gan fynd i'r afael â'r bylchau o ran gofal a gweithio'n ddiflino i greu system cymorth iechyd meddwl sy'n dryloyw, hygyrch ac yn effeithiol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.”

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans:

“Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn nodi bod angen gwneud mwy i wella cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Er bod dulliau arloesol yn cael eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol ymroddedig, mae gormod o bobl ifanc yn methu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt mewn modd amserol. Yn yr adroddiad, rydym yn nodi'r angen i'r holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd yn effeithiol i wella gwasanaethau ar unwaith i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i'r holl blant a phobl ifanc, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid a gyfrannodd at yr adolygiad hwn.”

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn wynebu cyfnod anodd a bod angen cymorth arnoch, cliciwch ar y dolenni gwybodaeth ac adnoddau isod: