Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Tachwedd 2024
  • Newyddion

Mae gofal yn trawsnewid bywydau er gwell – Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2023-2024

Mae adroddiad y flwyddyn hon yn pwysleisio bod y rhan fwyaf o'r gofal yng Nghymru yn ofal da, a bod staff gofal yn parhau i gyflawni er gwaethaf y pwysau ar y sector gofal.

Datgelodd Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd fod bron tri chwarter y graddau a ddyfarnwyd i gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn ystod 2023-2024 yn raddau ‘da’ neu ‘rhagorol’. Gwnaethom ddyfarnu 3,106 (74%) o raddau ‘rhagorol’ neu ‘da’, ynghyd â 1,078 (26%) o raddau ‘angen gwella’ neu ‘gwael’.

Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio graddau heb eu cyhoeddi ar gyfer cartrefi a gofal a gwasanaethau cymorth cartref, cyn newid i ddefnyddio graddau cyhoeddedig ar 1 Ebrill 2025.

Adlewyrchwyd y ffigurau hyn mewn lleoliadau gofal plant a chwarae hefyd, gyda 77% o'r holl raddau a ddyfarnwyd yn rhai ‘da’ neu ‘rhagorol’.

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:

“Yn rhy aml pan fydd gwasanaethau gofal cymdeithasol plant neu oedolion o dan y chwyddwydr, byddant yn cael eu cyflwyno fel gwasanaethau sydd wedi 'torri' y mae angen eu trwsio.”

“Er bod pob un ohonom yn cydnabod y pwysau eang ar y system, rydym yn gweld gofal ar ei orau yn gyson – yn trawsnewid bywydau er gwell. ”

“Er gwaethaf y galw, mae gennym weithlu ymroddedig iawn. Ar ben hynny, gall gofal a chymorth helpu i gynnal cydberthnasau a chysylltiadau pobl â theulu a ffrindiau; cefnogi'r economi; a galluogi rhieni a gofalwyr di-dâl i fynd i'r gwaith.”

Mae'r adroddiad yn nodi materion trawsbynciol y mae angen eu hystyried ar y cyd:

  • Mae ein harolygiadau yn parhau i ddangos y rhan hanfodol y mae arweinwyr yn ei chwarae wrth greu amgylchedd lle y gall pobl ffynnu. Fel arfer, y gwasanaethau sy'n perfformio orau yw'r rheini sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli eu timau i wneud eu gorau glas dros y bobl yn eu gofal. Ein galwad i weithredu yw y ‘dylai arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaethau gofal fod yn dosturiol, a dylent gymell ac ysbrydoli eu timau.Dylent wrando ar staff a rhoi'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r gofal gorau posibl i bobl.
  • Mae cysylltiad agos rhwng diwylliant cadarnhaol ac ymrwymiad i welliant parhaus, wedi'i ategu gan fyfyrio a dysgu. Byddwn yn parhau i gefnogi gwelliant drwy bennu graddau yn ein harolygiadau, drwy nodi ymarfer cadarnhaol yn ein hadroddiadau, a thrwy ddatblygu ffyrdd newydd o rannu'r ymarfer cadarnhaol hwn a rhoi cyhoeddusrwydd iddo. Ein galwad i weithredu yw y ‘dylai'r rheini sy'n darparu gwasanaethau ac Arolygiaeth Gofal Cymru rannu ymarfer cadarnhaol er mwyn datblygu a dathlu diwylliant o wella'n barhaus.’
  • Gellir sicrhau canlyniadau llawer gwell i bobl a newid ar lefel system drwy weithio mewn partneriaeth â'n gilydd i gyflawni nodau a rennir. Ein galwad i weithredu yw y ‘dylai sefydliadau a grwpiau sy'n gweithio ym maes gofal greu cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â'i gilydd ac achub ar gyfleoedd o'r fath.’

Fodd bynnag, nid yw'r adroddiad yn osgoi'r heriau sylweddol a wynebir gan y sector gofal cymdeithasol a'r sector gofal plant a chwarae. Mae'r hinsawdd economaidd sydd ohoni yn parhau i fod yn anodd i ddarparwyr ac mae effaith y pandemig yn dal i gael ei theimlo, sy'n golygu ei bod yn fwy rhyfeddol bod cymaint o wasanaethau yn gwneud cystal yn ein harolygiadau. Dywedodd y Prif Arolygydd.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.