Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Hydref 2024
  • Newyddion

Yr agweddau pwysicaf ar gartref plant da i blant a phobl ifanc

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gwnaethom weithio gyda grŵp o blant a phobl ifanc i lunio canllawiau cenedlaethol ar gyfer darparwyr gofal.

Disgwylir i ddarparwyr yng Nghymru sy'n ystyried cofrestru cartref gofal i blant ddarllen y canllawiau cenedlaethol newydd hyn (Dolen allanol), sydd wedi cael eu creu gan Lywodraeth Cymru, ni ein hunain a grŵp rhanddeiliaid gan gynnwys Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant a'u Comisiynwyr Ifanc.

Gwnaethom gomisiynu Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (y cyfeirir ato gan ddefnyddio'r talfyriad Saesneg 4Cs hefyd) i gasglu safbwyntiau eu Comisiynwyr Ifanc ynghylch yr hyn sy'n gwneud cartref gofal o ansawdd rhagorol yn seiliedig ar eu profiad bywyd.

Grŵp o ryw 60 o aelodau rhwng 6 ac 19 oed, sy'n byw gyda theulu maeth neu mewn cartref plant yng Nghymru yw Comisiynwyr Ifanc Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant. Wrth ystyried sefydlu cartref gofal i blant, mae'n bwysig darllen Adroddiad Adborth y Comisiynwyr Ifanc o fis Hydref 2023, ochr yn ochr â'r canllawiau hyn.

Yr hyn y gofynnodd blant a phobl ifanc amdano

Pan ofynnwyd iddynt am yr hyn sy'n gwneud cartref da, soniodd y plant a'r bobl ifanc am y canlynol:

  • cael ardal awyr agored;
  • cael cyfrannu syniadau wrth drafod nodweddion eu cartref neu sut y caiff ei addurno;
  • cael mwy nag un ystafell ymolchi neu'n ddelfrydol gyfleusterau en-suite;
  • osgoi swyddfeydd ffurfiol mawr ar gyfer y staff gofal, ac annog y staff gofal i dreulio amser gyda nhw yn hytrach na mewn swyddfa;
  • cael ardal lle y gallant fynd iddi os byddant yn teimlo'n bryderus, wedi'u llethu, neu os byddant am gael amser ar eu pen eu hunain;
  • ystafelloedd gwely sy'n teimlo'n glyd ac yn gyfforddus.

Diben y canllawiau hyn

Pan fyddwn yn cofrestru neu'n arolygu cartrefi gofal i blant, rydym yn disgwyl gweld bod y canllawiau cenedlaethol hyn wedi cael eu hystyried, wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cartrefi gofal i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Prif Arolygydd AGC, Gillian Baranski: 

“Mae'r math hwn o ganllawiau cenedlaethol yn hanfodol wrth helpu i hyrwyddo llais a hawliau plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Dyma eu cartref, felly mae'n bwysig eu bod yn gallu cyfrannu ac y gwrandewir ar eu lleisiau. Rwy'n croesawu'r canllawiau cenedlaethol hyn a byddwn yn disgwyl i bob darparwr gwasanaethau cartrefi plant roi sylw i'w cynnwys.”

I ddarllen y canllawiau llawn, ewch i'n tudalen adnoddau.