Mae eich llais yn bwysig: Helpu i lunio graddau gofal yng Nghymru
Rhannwch eich meddyliau i helpu ni i greu system raddio sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
O 1 Ebrill 2025, bydd pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref yn derbyn graddau ansawdd fel rhan o'n harolygiadau.
Bydd y graddau hyn yn eich helpu i ddewis y gofal gorau i chi neu'ch teulu.
Rydym wedi bod yn siarad â phobl sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal am sut i enwi'r sgoriau hyn. Nawr, dyma'ch cyfle chi i ddweud eich dweud!
- Pleidleisiwch dros eich hoff enwau (Dolen allanol)
Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yn yr arolwg hwn yw dydd Gwener 1 Tachwedd 2024.