Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Hydref 2024
  • Newyddion

Rydym yn diweddaru ein proses gofrestru

Pan fyddwch yn cofrestru â ni neu'n gwneud newidiadau i wasanaethau presennol, yn fuan byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth hanfodol ar y cam gwneud cais

Yn Arolygiaeth Gofal Cymru, rydym yn cofrestru gwasanaethau i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Ar hyn o bryd, yn ystod ein proses gofrestru, rydym yn gofyn am wybodaeth benodol ar y cam gwneud cais ac am ragor o wybodaeth wrth i'r cais i gofrestru gael ei asesu. Fodd bynnag, gall hyn arwain at oedi hir yn y broses gofrestru os nad yw'r wybodaeth ofynnol gan ymgeisydd.

Er mwyn ceisio osgoi unrhyw oedi diangen i'r broses, o 2 Rhagfyr, byddwn yn gofyn am yr holl wybodaeth hanfodol ar y cam gwneud cais, yn hytrach nag yn ystod y broses asesu. Bydd hyn yn helpu darpar ymgeiswyr i fod yn glir o ran pa wybodaeth sydd angen iddynt ei darparu er mwyn gwneud cais i gofrestru ag AGC.

Caiff y newidiadau hyn eu gwneud i system AGC Ar-lein o 2 Rhagfyr.

Mae canllawiau cofrestru ar ein gwefan i'ch helpu yn ystod y broses gofrestru ar-lein, a gallwch hefyd gyfeirio at aelod o'ch sefydliad a all fod ag adnoddau i'ch helpu.

Os ydych eisoes ar ganol cais ar-lein i gofrestru â ni, rhaid i chi gyflwyno'r cais hwn erbyn 16:00 ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024.

Gwasanaethau gofal plant a chwarae

Lle y bo'n berthnasol i'r cais, byddwn yn gofyn am y wybodaeth ganlynol fel rhan orfodol o gais i gofrestru â ni: 

  • Tystysgrif Rheolaeth Adeiladu 
  • Tystiolaeth bod cais am ganiatâd cynllunio wedi'i wneud neu fod caniatâd wedi'i gymeradwyo 
  • Tystysgrif EICR wedi'i dyddio o fewn y pum mlynedd diwethaf ar gyfer safle annomestig (nid oes angen hyn ar warchodwyr plant) 
  • Tystysgrif system wresogi wedi'i dyddio o fewn y 12 mis diwethaf. 
  • Asesiad risg tân 
  • Cynlluniau llawr â mesuriadau mewn metrau sgwar.

Gwasanaethau Oedolion a Phlant

Lle y bo'n berthnasol i'r cais, byddwn yn gofyn am y wybodaeth ganlynol fel rhan orfodol o gais i gofrestru â ni: 

  • Tystysgrif Rheolaeth Adeiladu 
  • Tystiolaeth bod cais am ganiatâd cynllunio wedi'i wneud, i asesu a oes angen hynny ai peidio, ac os oes angen hynny, bod gan y darparwr ganiatâd. 
  • Asesiad risg tân 
  • Tystysgrif comisiynu system llethu/anwedd dŵr/chwistrellu dŵr ar gyfer tân er mwyn dangos ei bod wedi'i gosod 
  • Tystysgrif busnes bwyd neu dystiolaeth bod cais wedi'i wneud ar gyfer tystysgrif 
  • Tystiolaeth o berchnogaeth neu gytundeb les ar gyfer y safle 
  • Enw rheolwr ar gyfer y gwasanaeth, sy'n meddu ar gymwysterau addas ac wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y math o wasanaeth y gwneir cais amdano.

Cwestiynau?

E-bostiwch agc.cyflawni@llyw.cymru.