Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Hydref 2024
  • Newyddion

Newidiadau i ddarparwyr cofrestredig y mae angen iddynt amrywio eu cofrestriad

Gall y newidiadau hyn fod yn berthnasol i unrhyw ddarparwr sy'n dymuno amrywio'r cofrestriad presennol ar gyfer gwasanaeth, megis cynyddu'r uchafswm capasiti a gwarchodwyr plant sy'n symud tŷ.

Ar hyn o bryd, os bydd angen i ddarparwr wneud cais am amrywiad, efallai y bydd oedi i'r broses asesu am nad yw'r darparwr wedi cyflwyno gwybodaeth hanfodol wrth wneud cais am yr amrywiad.

I helpu gyda hyn, rydym wedi newid rhai o'n prosesau pan fydd angen i ddarparwyr wneud y canlynol: 

  • gwneud cais i amrywio eu niferoedd; neu 
  • symud tŷ (ar gyfer gwarchodwyr plant).

Bydd angen i ni gynnal yr holl wiriadau priodol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith o hyd, ond rydym wedi newid ein model gwneud cais er mwyn symleiddio'r broses asesu a lleihau oedi. Fel rhan o hyn, byddwn yn gofyn am wybodaeth hanfodol yn gynt yn y broses.

Caiff y newidiadau hyn eu gwneud i system AGC Ar-lein yn nes ymlaen eleni.

Cwestiynau?

E-bostiwch agc.cyflawni@llyw.cymru.