Mae ein hofferyn data diwygiedig ar gyfer gofal plant a chwarae bellach ar gael
Mae'r offeryn hunanadrodd data ar gyfer gofal plant a chwarae yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan 2704 o ddarparwyr cofrestredig ledled Cymru.
Yn gynharach eleni, gwnaethom gasglu amrywiaeth o wybodaeth a data gan bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru drwy broses y Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth. Mae'r wybodaeth hon, yn ogystal â data o flynyddoedd blaenorol, wedi ein galluogi i greu'r offeryn gweladwy hwn.
Mae'r offeryn data yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol, o hyfforddiant a chymwysterau staff i'r fframweithiau ansawdd a ddefnyddir. Mae'r offeryn hefyd yn amlinellu nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae a nifer y swyddi gwag.
Dywedodd Ceri Herbert, Pennaeth y tîm gofal plant a chwarae yn AGC:
“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bob un o'r 2704 o ddarparwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu'r wybodaeth hanfodol hon â ni.
Mae'r data rydym yn eu casglu bob blwyddyn yn ein galluogi i gael darlun eang o'r sector gofal plant a chwarae ledled Cymru gyfan a nodi lle y gall fod bylchau neu dueddiadau y mae angen eu hystyried ymhellach.
Rydym yn parhau i weithio gyda'r sector a sefydliadau partner i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu'r sector gofal plant a chwarae yng Nghymru i ffynnu”.
Gallwch ddod o hyd i'r offeryn data ar ddiwedd y dudalen hon.