Penodi Dirprwy Brif Arolygydd newydd ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru
Dechreuodd Kevin Barker yn y rôl ar 19 Awst 2024.
Cyn hynny roedd Kevin yn Bennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn yr arolygiaeth.
Mae'n cymryd yr awenau oddi wrth Vicky Poole a ymddeolodd yn gynharach y mis hwn. Roedd Vicky wedi bod yn Ddirprwy Brif Arolygydd yn AGC ers deng mlynedd, ar ôl dal swydd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru yn AGC. Dymunwn bob lwc i Vicky yn ei hymddeoliad.
Mae'r Dirprwy Brif Arolygydd yn goruchwylio'r gwaith beunyddiol o gyflawni holl swyddogaethau AGC yn unol â deddfwriaeth. Mae deiliad y rôl, sy'n atebol i'r Prif Arolygydd yn uniongyrchol, yn gyfrifol am ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, darparwyr, rhanddeiliad, a Llywodraeth Cymru.
Y Dirprwy Brif Arolygydd Newydd
Ymunodd Kevin ag Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y pryd yn 2002 ac mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, gan arwain ar adolygiadau o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a rôl dros dro yn cydlynu gwaith AGC ac arolygiaethau partner trwy ‘Arolygu Cymru’. Roedd yn Bennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae o 2018-2024. Gallwch ddarllen mwy am yrfa Kevin ar dudalennau ‘cwrdd â’r tîm’ ar ein gwefan.
Wrth sôn am y rôl, dywedodd:
“Rwyf wrth fy modd i ymgymryd â rôl Dirprwy Brif Arolygydd AGC. Mae’n fraint bod mewn sefyllfa i helpu i arwain sefydliad gwych. Yr un mor bwysig, edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â phawb sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a gofal plant – gan gynnwys pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau rydym yn eu cofrestru a’u harolygu. Dim ond gyda’n gilydd y byddwn yn cyflawni newid parhaol er gwell.”
Yn y cyfamser, mae Ceri Herbert wedi dod yn Bennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn AGC.