Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Medi 2024
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Gwynedd

Yn ystod mis Hydref byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Gwynedd.

Diben y gwiriad hwn fydd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu pa gynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud yn y meysydd y nodwyd bod angen eu gwella yn ystod ein Harolygiad Gwerthuso Perfformiad diwethaf ym mis Medi 2022.

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Gwynedd, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg hwn isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 7 Hydref 2024.

Caiff ein llythyr canfyddiadau ar gyfer y gwasanaethau hyn ei gyhoeddi ar ein gwefan.