Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Awst 2024
  • Newyddion

Gwiriad gwella yn nodi lleihad yn y rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Ynys Môn

Gwnaethom gynnal y gwiriad gwella hwn rhwng 24 a 26 Mehefin 2024.

Er bod rhai gwelliannau wedi cael eu gwneud yn dilyn ein harolygiad yn 2022, nodwyd gennym fod angen cymryd camau pellach yn y rhan fwyaf o feysydd.

Roedd tîm arwain cryf yn y gwasanaethau oedolion, a oedd wedi llunio ac wedi gweithredu newidiadau cadarnhaol ac a oedd yn ymwybodol o'r meysydd yr oedd angen eu hatgyfnerthu. Roedd aelodau'r tîm wedi gweithio'n galed i nodi cyfeiriad clir ar gyfer newid, ac roeddent yn cael eu cefnogi gan ymarferwyr cymwys ac ymroddedig.

Mae gwelliant o ran sefydlogrwydd y gweithlu wedi arwain at wasanaeth gwell a mwy amserol i bobl. Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo'r opsiwn taliadau uniongyrchol, sy'n enghraifft o ymarfer cadarnhaol. 

Mae'r rhestrau aros ar gyfer asesiadau gwaith cymdeithasol wedi lleihau yn sylweddol, a chânt eu cefnogi gan drefniadau monitro clir. Fodd bynnag, mae'r rhestrau aros ar gyfer therapi galwedigaethol yn uchel o hyd. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu o fewn 12 mis. 

Mae'r gwasanaeth wedi parhau i elwa ar gymorth corfforaethol a gwleidyddol. Mae'n hanfodol bod hyn yn parhau, er mwyn sicrhau bod y cynnydd a wnaed yn cael ei gynnal, a bod y meysydd y mae angen eu gwella ymhellach yn cael cefnogaeth ddigonol a bod digon o adnoddau ar gael ar eu cyfer. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol yn gyson.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd y nodwyd bod angen eu gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. 

Rydym yn croesawu ymdrechion gan yr awdurdod lleol i rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd gydag awdurdodau lleol eraill, er mwyn hyrwyddo'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

Disgwylir i’r awdurdod lleol gyflwyno’r llythyr hwn i aelodau etholedig a’i wneud yn destun proses graffu gyhoeddus drwy gyfarfod pwyllgor ffurfiol ac agored cyn gynted â phosibl. Dylid hefyd estyn gwahoddiad i AGC fynychu'r cyfarfod.