Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Awst 2024
  • Newyddion

Datganiad am yr anhrefn, y trais a'r hiliaeth a welwyd ledled y DU yn ddiweddar

Rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n cydweithwyr sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant a chwarae sy'n Ddu, yn Asiaidd neu o gefndir ethnig lleiafrifol.

Fel sefydliad, mae'r anhrefn, y trais a'r hiliaeth a welwyd yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi ein cythruddo'n llwyr. Yn ffodus, mae'r sefyllfa wedi tawelu bellach ac hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw olygfeydd erchyll o'r fath yng Nghymru. Serch hynny, mae'n bosibl y bydd y digwyddiadau hyn yn dal i achosi ofn a phryder i lawer o bobl ble bynnag y byddant yn byw neu'n gweithio.

Rydym am sefyll ochr yn ochr â'r cydweithwyr hynny sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant a chwarae sy'n Ddu, yn Asiaidd neu o gefndir ethnig lleiafrifol, neu y mae'r hiliaeth a welsom wedi effeithio ar aelodau o'u teulu neu eu ffrindiau. 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu ffordd fwy cyfartal, mwy amrywiol a mwy cynhwysol o weithio, ac o ddarparu gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym am wneud popeth y gallwn i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (Dolen allanol), a hynny o ran ein ffordd o weithio a'n ffordd o gefnogi a herio'r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu. 

Cofiwch siarad â'ch cydweithwyr, neu eich rheolwyr os oes angen cymorth arnoch, neu os ydych yn adnabod rhywun y mae'r digwyddiadau hyn wedi effeithio arno.

Mae deunydd a dolenni i gefnogi iechyd a llesiant ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol) ac ar Canopi (Dolen allanol), y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol sydd ar gael am ddim i staff gofal cymdeithasol a staff y GIG yng Nghymru sy'n 18 oed a throsodd.