Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 5 Awst 2024
  • Newyddion

Plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn helpu i lywio'r canllawiau ar agor cartrefi plant o safon yng Nghymru

Gwnaethom ofyn i grŵp o bobl ifanc ein helpu i ddatblygu canllawiau ar yr hyn sy'n gwneud cartref yn le da i fyw ynddo.

Mae'r canllawiau wedi'u dylunio i sicrhau bod gan sefydliadau sy'n bwriadu agor cartref plant yng Nghymru ddealltwriaeth dda o'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc.

Gwnaethom ofyn i'r Comisiynwyr Ifanc, grŵp o tua 60 o blant a phobl ifanc rhwng 6 a 19 oed sy'n byw gyda theulu maeth neu mewn cartref plant yng Nghymru, i feddwl am y canlynol:

  • Beth sy'n gwneud i dŷ deimlo fel cartref.
  • Beth yw maint cartref da a faint o blant ddylai fyw gyda'i gilydd.
  • Sut ddylai cartref da edrych ar y tu mewn, gan gynnwys eu barn am yr ystafelloedd unigol a'r ardaloedd a rennir.
  • Sut ddylai cartref da edrych ar y tu allan, gan gynnwys y gerddi a'r ardaloedd awyr agored.
  • Ble dylid lleoli cartref da a beth ddylai fod ar gael yn y gymuned gyfagos.

Gallwch ddarllen awgrymiadau gwych y Comisiynwyr Ifanc drwy'r ddolen ar waelod y dudalen hon.