Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 11 Gorffennaf 2024
  • Newyddion

Adroddiad arolygu ar gyfer gwasanaethau oedolion yn Abertawe wedi'i gyhoeddi

Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad gwasanaethau oedolion Cyngor Abertawe.

Yn debyg i nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, mae gwasanaethau oedolion yn Abertawe yn wynebu lefelau uchel o alw ac anghenion cynyddol gymhleth gan bobl, yn ogystal â heriau mewn perthynas â chadw staff a phwysau ariannol. Mae'r arweinwyr yn Abertawe yn deall anghenion y bobl yn eu hardal ac yn cynnig cyfeiriad strategol da i ddiwallu'r anghenion hynny a'r galw am wasanaethau.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau sydd ar wasanaethau oedolion, mae'r awdurdod lleol wedi rhoi rhaglen trawsnewid ar waith sy'n ystyried cyfleoedd atal a chymorth cynnar; hybu a galluogi annibyniaeth; a blaenoriaethu adnoddau. Hyd yma, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn sawl maes, gan gynnwys ailstrwythuro'r timau Asesu a Rheoli Gofal.

Mae gan Gyngor Abertawe weithlu ymroddedig, ac roedd 88% o'r rhai a ymatebodd i'n harolwg staff dienw yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ddigonol gan eu rheolwyr, gyda 72% ohonynt yn nodi eu bod yn gallu ymdopi â'u llwythi gwaith.

Mae ein hadroddiad yn amlinellu meysydd o ymarfer cadarnhaol, gan gynnwys enghreifftiau da o gydweithio a nifer o enghreifftiau o gydgynhyrchu, yn ogystal â thystiolaeth glir sy'n dangos bod yr hyn sy'n bwysig i bobl yn cael ei gofnodi yn eu cynlluniau gofal a chymorth.

Fodd bynnag, nododd arolygwyr hefyd fod llawer o bobl yn wynebu oedi wrth gael asesiad o'u hanghenion gofal a chymorth, a bod heriau parhaus o ran cyfraddau absenoldebau oherwydd salwch ymhlith staff gwasanaethau cymdeithasol. Er gwaethaf hyn, unwaith y caiff pobl eu gweld, mae'r asesiadau a'r cynlluniau gofal yn arwain at ddulliau creadigol o hyrwyddo llesiant y bobl. 

Fel rhan o'n harolwg, dywedodd bron hanner (48%) o'r ymatebwyr eu bod wedi wynebu anawsterau wrth gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, gydag amseroedd ymateb hir dros y ffôn a diffyg negeseuon e-bost dilynol. Mae'n hanfodol goresgyn y materion hyn er mwyn gwella effeithiolrwydd y gwasanaeth a rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau y caiff gwybodaeth, cyngor a chymorth eu rhoi mewn modd amserol.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.

Y camau nesaf 

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r arferion cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.