Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 27 Mehefin 2024
  • Newyddion

Graddau mud ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref i barhau

Fel y gwyddoch eisoes o bosibl, rydym wedi bod yn treialu graddau mud neu raddau heb eu cyhoeddi ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae'r broses bellach wedi bod yn destun gwerthusiad annibynnol – gwnaethom gyhoeddi'r adroddiad ar ein gwefan ar 20 Mehefin.

Wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer y broses o gyhoeddi graddau o fis Ebrill 2025, bydd ein harolygwyr yn dyfarnu graddau mud i gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref pan fyddant yn cael eu harolygu o hyd. 

Diben hyn yw helpu i baratoi darparwyr ar gyfer y broses o gyhoeddi graddau a rhoi'r cyfle gorau i'n harolygwyr ymgyfarwyddo â'r graddau fel rhan o'u methodoleg arolygu.

Cwestiynau? 

Ymunwch â'n digwyddiadau ar-lein i ddarparwyr a gaiff eu cynnal ar 3 ac 11 Gorffennaf – rydym wedi anfon neges e-bost at gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn uniongyrchol yn cynnwys dolenni i'r digwyddiadau ar-lein ar Teams.