Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 27 Mehefin 2024
  • Newyddion

Ein dull newydd o hyrwyddo gwelliannau mewn lleoliadau gofal plant a chwarae

Yn ystod haf 2022, rhoddodd ein tîm gofal plant a chwarae brosiect ar waith i ystyried dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella'n barhaus.

Ein nodau oedd:

  • gwneud mwy i hyrwyddo gwelliannau yn y sector a darparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau;
  • annog arloesedd drwy hyrwyddo a rhannu enghreifftiau o ymarfer effeithiol yn y ddarpariaeth gofal plant a chwarae.

Gwyddom fod plant yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan fo darparwyr yn arwain y broses o wella eu lleoliadau eu hunain yn effeithiol. Rydym am wneud mwy i helpu darparwyr unigol i wneud hyn, ond rydym hefyd am helpu i gyflawni gwelliannau ledled Cymru.

Beth sy'n newid?

  • Byddwn yn dechrau cyflwyno cyfarfodydd ansawdd rhwng arolygiadau yn raddol yn ddiweddarach yn 2024.
  • Yn y gorffennol, cyfeiriwyd at y cyfarfodydd hyn fel cyfarfodydd gwella, ond rydym wedi penderfynu eu galw'n gyfarfodydd ansawdd er mwyn cyfleu'r amrywiaeth ehangach o drafodaethau a gynhelir am ansawdd y gwasanaeth yn gyffredinol.
  • Byddwn hefyd yn cynnal cynadleddau ansawdd blynyddol i rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ac i fwrw ati gyda'n gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion cyffredin sy'n codi yn y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.
  • Byddwn hefyd yn rhannu straeon am ymarfer cadarnhaol ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol AGC.

Byddwn yn parhau i roi sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau drwy ein harolygiadau. Byddwn yn canolbwyntio ar y lleoliadau y mae angen iddynt wneud y gwelliannau mwyaf ac yn arolygu'r lleoliadau hyn yn amlach na'r rhai hynny sy'n sicrhau canlyniadau ‘da’ neu ganlyniadau ‘rhagorol’ i blant.

Byddwn yn darparu gwybodaeth a chanllawiau manylach mewn perthynas â'r newidiadau hyn yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Yn y cyfamser, byddai'n fuddiol iawn i chi ystyried eich prosesau ar gyfer adolygu ansawdd y gofal a pha mor effeithiol ydynt wrth eich helpu i wneud gwelliannau yn eich lleoliad. Gallwch gyfeirio at Safon 18 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth.