Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Mehefin 2024
  • Newyddion

Cyhoeddi gwerthusiad o'r cynllun peilot graddau mud ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref

Y llynedd gwnaethom brofi graddau arolygu heb eu cyhoeddi ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref ledled Cymru.

Trafodwyd y graddau arolygu ag arweinwyr gwasanaethau yn ystod y cam profi hwn ond ni chyhoeddwyd y graddau yn eu hadroddiadau arolygu. 

Er mwyn i ni ddeall yr hyn a oedd wedi gweithio'n dda a pha feysydd roedd angen eu datblygu ymhellach, gwnaethom ofyn i gwmni annibynnol, Practice Solutions Ltd (Dolen allanol), werthuso ein dull gweithredu.

Rydym wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau bellach – gallwch ddarllen yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon. 

Aeth tîm Practice Solutions ati i ofyn barn amrywiaeth eang o bobl sy'n ymwneud ag arolygiadau a gofal cymdeithasol, gan gynnwys darparwyr a gofalwyr y rhai hynny sy'n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal ag arolygwyr AGC. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at y gwaith pwysig hwn. 

Mae eich safbwyntiau wir wedi helpu i lunio'r 15 o argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad.

Beth sydd nesaf? 

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda'r sector er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl ac mae'r adroddiad gwerthuso yn rhoi cyfle gwerthfawr i fynd ati ymhellach i ymdrin â'r materion sydd wedi dod i'r golwg hyd yma. 

Rydym yn ystyried yr argymhellion yn ofalus a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu yn ymateb i’r argymhellion yn ddiweddarach yn yr haf. Bydd y cynllun gweithredu yn cynnwys rhagor o fanylion am y camau y byddwn yn eu cymryd i baratoi ar gyfer cyhoeddi graddau o fis Ebrill 2025. Yn y mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar reoliadau drafft a fydd yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer graddau arolygu a gyhoeddir.

Rydym wedi ysgrifennu at bob darparwr cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref i'w hysbysu am gyfres o ddigwyddiadau y byddwn yn eu cynnal ar ddechrau mis Gorffennaf. Byddem yn annog pob un o'r darparwyr hyn i fanteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar y gwaith gwirioneddol bwysig hwn.