Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 3 Mehefin 2024
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Ynys Môn

Yn ystod mis Mehefin byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Sir Ynys Môn.

Diben y gwiriad hwn fydd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu pa gynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud yn y meysydd y nodwyd bod angen eu gwella yn ystod ein Harolygiad Gwerthuso Perfformiad diwethaf ym mis Hydref 2022.

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Ynys Môn, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg hwn isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 21 Mehefin 2024.

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)

Caiff ein llythyr canfyddiadau ar gyfer y gwasanaethau hyn ei gyhoeddi ar ein gwefan.