Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 23 Mai 2024
  • Newyddion

Ein canfyddiadau o wiriad sicrwydd o'r Tîm Oedolion yn y Gymuned ym Mlaenau Gwent

Gwnaethom gynnal y gwiriad sicrwydd hwn rhwng 26 a 28 Mawrth 2024.

Tîm oedolion yn y gymuned yw hwn, lle mae'r staff yn cefnogi oedolion dros 18 oed sy'n agored i niwed. Canolbwyntiodd y gwiriad sicrwydd hwn ar oedolion ag anabledd dysgu, ac adolygwyd perfformiad tîm Blaenau Gwent wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â deddfwriaeth ar gyfer y grŵp hwn o oedolion a'u gofalwyr.

Canfyddiadau

Canfu'r arolygwyr fod tîm arwain sefydlog a phrofiadol ar waith. Roedd yr uwch-reolwyr yn ymwybodol o'r heriau parhaus sylweddol a wynebir wrth ymateb i alw ac anghenion mwy cymhleth, a phwysau ariannol. 

Mae angen sicrhau bod pwyslais yn cael ei roi ar weithredu cynlluniau strategol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu, ac mae cynlluniau cynaliadwyedd ariannol cadarn yn hollbwysig er mwyn atal toriadau byrdymor a ysgogir gan argyfyngau. Mae ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan eu rheolwyr a'u bod yn gallu ymdopi â'u llwythi achosion ar y cyfan.

Mae'r awdurdod lleol yn hyrwyddo mathau gwahanol o gymorth tai er mwyn galluogi pobl i gyflawni eu canlyniadau, gan gynnwys y canlyniad i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned. Dywedodd pobl, ymarferwyr a rhai gofalwyr di-dâl wrthym fod amrywiaeth dda o adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael, ond yr hoffent weld mwy o gyfleoedd i oedolion ag anabledd dysgu wirfoddoli a chael gwaith ystyrlon. 

Disgrifiodd y rhanddeiliaid a ymatebodd i'n harolwg gydberthnasau gwaith cadarnhaol â'r awdurdod lleol. Maent o'r farn bod y gweithwyr cymdeithasol yn ymatebol ac yn trin pobl ag urddas a pharch. Dywedodd un rhanddeiliad: “Practitioners have always put the views of adults using our services at the forefront and always ensure they find out what is important to them.”

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd yn ein llythyr a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. 

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r arferion cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru. 

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.