Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Ebrill 2024
  • Newyddion

Yn galw ar bob gwasanaeth oedolion a phlant – mae'r ffenestr ar gyfer eich Datganiad Blynyddol bellach ar agor

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganiad yw 26 Mai 2024.

Mae'r Datganiad Blynyddol bellach ar gael i Unigolion Cyfrifol ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant ei gwblhau gan ddefnyddio eu cyfrif AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Beth yw Datganiad Blynyddol?

Ffurflen ar-lein yw'r Datganiad Blynyddol y mae'n rhaid i'r darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant canlynol ei chwblhau bob blwyddyn: 

  • Gwasanaethau cartrefi gofal 
  • Gwasanaethau cymorth cartref 
  • Gwasanaethau llety diogel 
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd 
  • Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig 
  • Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig 
  • Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig 
  • Gwasanaethau lleoli oedolion

Beth rydym yn ei wneud â'r data?

Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni drwy gyflwyno eu Datganiad Blynyddol yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau a rhoi'r help a'r cymorth cywir i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Caiff y data o bob cwr o Gymru eu coladu a'u gwneud yn ddienw a'u cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2024. Gallwch edrych ar ddata'r llynedd ar ein tudalen offer data.

Gwybodaeth bwysig i bob gwasanaeth oedolion a phlant:

  • Os ydych yn rhedeg gwasanaeth oedolion neu blant, mae'n ofyniad cyfreithiol i chi gwblhau eich Datganiad Blynyddol erbyn 26 Mai 2024. 
  • Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Blynyddol. 
  • Dylai'r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu'r swyddog/swyddogion sefydliadol sydd wedi actifadu ei gyfrif/eu cyfrif AGC Ar-lein gwblhau a chyflwyno'r Datganiad Blynyddol. 
  • Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, mae angen i chi weithredu ar frys: 
    • ewch i AGC Ar-lein neu (Dolen allanol) ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Cymorth a chanllawiau

Rydym wedi creu fideo byr sy'n dangos sut i gwblhau eich Datganiad Blynyddol, yn ogystal â chyfarwyddiadau sylfaenol i'ch helpu. Mae'r rhain ar gael ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.