Mae'r offeryn data ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant bellach ar gael
Bob blwyddyn (ers 2022), rydym yn casglu data a gwybodaeth gan wasanaethau oedolion a phlant. Cyfeirir ato fel y Datganiad Blynyddol.
Mae'r offeryn data ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan y canlynol:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- wasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
Ni chaiff gwybodaeth a gasglwyd gan ddarparwr gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau llety diogel ei chynnwys fel rhan o'r data hyn er mwyn sicrhau na chaiff gwybodaeth sensitif ei datgelu.
Dyma grynodeb o rywfaint o'r data rydym wedi'u casglu:
Gallwch ddod o hyd i offeryn data 2022/23 ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant ar ein tudalen offer data.