Byddwn yn dangos cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn gwasanaethau ar gyfeiriadur ein gwefan yn fuan
Dim ond ar gyfer mathau penodol o wasanaethau gofal oedolion a phlant y bydd y newid hwn yn gymwys.
Yn sgil Rheoliadau newydd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, byddwn yn dangos cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yn gyhoeddus ar gyfer pob gwasanaeth gofal sydd wedi cofrestru â ni o dan Ddeddf 2016 yn fuan.
Bydd y newid yn sicrhau y bydd cyfeiriadur ein gwefan yn cynnwys manylion cyswllt cyflawn ar gyfer y mathau canlynol o wasanaethau cofrestredig yng Nghymru:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
- Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023 yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Senedd.
Ar gyfer gwasanaethau newydd a fydd yn cofrestru ar ôl 31 Rhagfyr 2023, byddwn yn gofyn i chi nodi rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y gwasanaeth wrth i chi gofrestru.
Ar gyfer gwasanaethau presennol, byddwn yn gofyn i chi nodi'r manylion hyn fel rhan o'n hymarfer i gwblhau Datganiad Blynyddol.
Rhaid i'r mathau hyn o ddarparwyr sicrhau bod cyfeiriad e-bost a rhif ffôn eu gwasanaeth yn gyfredol drwy eu cyfrif AGC Ar-lein.
Pa gyfeiriad e-bost fydd yn cael ei ddangos?
Prif gyfeiriad e-bost y gwasanaeth fydd yn cael ei ddangos yn gyhoeddus. Mewn sawl achos, e-bost cyffredinol fydd hwn, er enghraifft swyddfa@cartrefgofal.com.
Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai cyfeiriad e-bost y gwasanaeth gynnwys enw unigolyn neu gyfeiriad y gwasanaeth y mae'n bosibl na fydd darparwyr yn dymuno eu dangos yn gyhoeddus.
Cymryd camau
Os ydych yn darparu un o'r mathau uchod o wasanaethau, cymerwch amser i edrych ar brif gyfeiriad e-bost eich gwasanaeth ac ystyriwch p'un a fyddwch yn fodlon iddo gael ei ddangos yn gyhoeddus neu p'un a fyddwch yn dymuno creu cyfeiriad e-bost newydd at y diben hwn.
Os ydych am ei newid, bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein a diweddaru cyfeiriad e-bost eich gwasanaeth.
Os ydych yn fodlon i'ch cyfeiriad e-bost gael ei ddangos fel y mae, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.
Mae'r un peth yn wir am rif ffôn eich gwasanaeth.
Cwestiynau? E-bostiwch agc@llyw.cymru
Seiberddiogelwch
Gallai dangos eich cyfeiriad e-bost ar-lein arwain at gynnydd mewn negeseuon e-bost gwe-rwydo neu sgam. Mae’n bwysig bod yn hyderus am seiberddiogelwch.
Yn ddiweddar, bu'r Tîm Seibergadernid Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda heddluoedd Cymru i ddatblygu fideo (Dolen allanol) yn seiliedig ar ddigwyddiad seiber go iawn yn y sector gofal.
Cymerwch ychydig funudau i wylio'r fideo i ddysgu mwy am effaith ddinistriol negeseuon e-bost gwe-rwydo a'r hyn y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun.