Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno graddau
Bydd ein cyfnod peilot graddau mud ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref nawr yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
Bydd graddau arolygu cyhoeddedig yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2025.
Gwnaed y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru i gydnabod y pwysau sylweddol y mae'r sector wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf ac y mae'n parhau i'w wynebu.
Bydd ymestyn y cyfnod peilot hefyd yn rhoi'r cyfle i ni ddysgu o ganfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol, i wneud gwelliannau ac i brofi'r gwelliannau hynny ar waith.
Rydym am sicrhau bod y graddau yn rhoi gwerth i ddarparwyr gwasanaethau a'r bobl sy'n ceisio dod o hyd i wasanaethau gofal a chymorth neu'r bobl sy'n eu defnyddio. Bydd y graddau arolygu yn arwydd clir a gwrthrychol o ansawdd y gwasanaethau ac i ba raddau y mae'r gwasanaethau yn cefnogi pobl. Byddant yn cydnabod rhagoriaeth ac arferion da, ac yn tynnu sylw at y gwelliannau y mae angen eu gwneud.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein proses fesul cam yn ein canllawiau interim i ddarparwyr ar y graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.