Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Mawrth 2023.
Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).
Pan fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r Llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.
Gwelsom fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dîm rheoli profiadol a sefydlog sy'n goruchwylio gweithdrefnau mewn perthynas â'r ACG. Mae'r ddealltwriaeth gyffredin o fewn yr awdurdod lleol o'r trothwy ar gyfer cychwyn proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, a gaiff ei chefnogi gan yr amrywiol gyfarfodydd a gynhelir yn unol â'r prosesau cyn-achos a'r polisi ACG, yn gryfder amlwg.
Ar y cyfan, gwelsom fod safon asesiadau yn foddhaol, a bod y gorau o'u plith yn darparu dadansoddiad clir, gan fyfyrio ar yr hyn a oedd yn bwysig i'r plentyn / person ifanc, yn ogystal â darparu ymdeimlad clir o'i brofiad bywyd. Mewn rhai achosion, gwnaethom nodi achosion o oedi wrth gynnal asesiadau, a allai fod wedi oedi'r broses o wneud penderfyniadau ac, yn y pen draw, effeithio ar y gallu i ddarparu cymorth amserol. Roedd asesiadau eraill yn nodi cryfderau unigol y rhai hynny a oedd yn rhan o'r broses yn glir, ond byddai eu cysylltu â'r broses o leihau risgiau wedi eu gwneud yn fwy cadarn.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.