Dathlu blwyddyn o'n Offeryn Delweddu Data
Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers lansio ein offeryn delweddu data rhyngweithiol, sy’n darparu gwybodaeth am y gwasanaethau a lleoedd a reoleiddir gennym.
O fewn ein Cynllun Strategol 2020-2025, gwnaethom amlinellu ein huchelgais i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a rhannu ein gwybodaeth a'n data gydag aelodau o'r cyhoedd, darparwyr, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rhanddeiliaid ehangach.
Mae'r Offeryn Data cwbl ddwyieithog yn rhan allweddol o'r gwaith hwn ac wedi derbyn mwy na 1,100 o ymweliadau ers ei lansio flwyddyn yn ôl.
Ym mis Tachwedd 2022, canmolodd Comisiynydd y Gymraeg yr Offeryn yng nghyswllt hyrwyddo'r Gymraeg:
Mae'r offeryn data hwn yn enghraifft o sut mae'r disgwrs wedi symud ymlaen o ddefnyddwyr yn gallu defnyddio gwybodaeth gyhoeddus yn eu dewis iaith a bod y ddarpariaeth Gymraeg bellach yn elfen allweddol. Mae hefyd yn enghraifft o sefydliad sydd wedi mynd gam ymhellach ac yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o 3. wasanaethau Cymraeg yn y sector gofal ar draws Cymru, ac yn annog defnydd o’r gwasanaethau Cymraeg hynny sydd ar gael.
Ydych chi wedi defnyddio Offeryn Data AGC? Os felly, cymerwch funud i roi eich adborth i ni drwy gwblhau’r arolwg hwn (Dolen allanol).