Bydd ein harolygiadau ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) yn ailddechrau eleni
Yn flaenorol, buom yn cymryd rhan yng ngwaith JICPA yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2021 a Chasnewydd yn 2019.
Yn dilyn yr arolygiadau ar y cyd llwyddiannus blaenorol, bydd rhaglen JICPA 2023/24 yn adolygiad systemau o drefniadau amddiffyn plant ym mhob bwrdd diogelu rhanbarthol ac ardal yr heddlu yng Nghymru, i nodi arferion cadarnhaol ac unrhyw feysydd i'w gwella.
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb aml-asiantaeth a dyna pam rydym yn gweithio gyda chyd-arolygiaethau Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, ar yr arolygiadau hyn.
Ar gyfer rhaglen 2023/24 byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu plant 11 oed neu'n iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
Mae hyn yn dilyn cyfres o farwolaethau trasig yng Nghymru a Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd yr arolygiad JICPA cyntaf ei gynnal yn Sir Ddinbych y mis hwn.