Mae’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2023 bellach yn fyw
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.
Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr i roi gwybod iddynt fod y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach yn fyw (31 Ionawr 2023).
Mae'r Datganiad yn ffurflen ar-lein y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth gwasanaeth.
Bydd methiant i chwblhau'r SASS yn effeithio ar y gradd ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth yn yr arolygiad nesaf a bydd hefyd yn cael ei gofnodi yn yr adroddiad arolygu fel maes i’w wella yn unol â Pholisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi AGC.
Mae'r SASS yn darparu gwybodaeth hanfodol a ddefnyddiwn i gynllunio ein harolygiadau, ac yn ein helpu i gynghori Llywodraeth Cymru am gyflwr y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.
Os oes gennych gyfrif AGC Ar-lein (Dolen allanol) eisoes gallwch fewngofnodi, cwblhau a chyflwyno eich Datganiad o heddiw, 31 Ionawr 2023.
Os nad ydych wedi creu cyfrif AGC Ar-lein eto, mae angen i chi weithredu ar frys.
- ewch i AGC Ar-lein
- neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4
Cwblhewch a cyflwynwch eich Datganiad erbyn, dydd Gwener 17 Mawrth.