Diweddariad y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS)
Rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau i ddydd Gwener 17 Mawrth 2023, gan roi ychydig dros chwe wythnos i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno eu SASS.
Fe wnaethom ysgrifennu at yr holl ddarparwyr Gofal Plant a chwarae ym mis Rhagfyr 2022 a dechrau Ionawr 2023 i'w hysbysu y bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) yn mynd yn fyw ar 31 Ionawr 2023. Rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau i ddydd Gwener 17 Mawrth 2023, gan roi ychydig dros chwe wythnos i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno eu SASS. Mae hyn i gydnabod y pwysau parhaus ar y sector.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae gwblhau SASS.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor o nodiadau atgoffa dros yr wythnosau nesaf; peidiwch ag anghofio y gallwch chi hefyd ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd.