Mae adroddiad gwerthuso Gwasanaethau Oedolion a Phlant Cyngor Sir Ynys Môn wedi'i gyhoeddi
Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Hydref 2022.
Pwrpas yr arolygiad oedd adolygu gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Sir Ynys Môn.
Clywsom neges gyson a chadarnhaol gan y gweithlu ynghylch ansawdd yr arweinyddiaeth a'r diwylliant ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Roedd yr adborth yn cynnwys y ffaith bod y rheolwyr yn weladwy, yn hawdd mynd atynt a'u bod yn cynnig cymorth rheolaidd a dibynadwy, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae llesiant y gweithlu yn parhau i fod yn ffocws cadarnhaol ym mhob rhan o'r ddau wasanaeth, gyda strategaethau ar waith i gefnogi'r staff drwy gydol y pandemig a thu hwnt.
Rydym yn ymwybodol o bryderon sylweddol ynghylch argaeledd gwasanaethau i gefnogi pobl yn genedlaethol yn sgil materion fel prinderau yn y gweithlu ym mhob rhan o'r sector. Yn debyg i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ledled Cymru, mae'r awdurdod lleol hefyd yn wynebu heriau sylweddol. Gwelsom fod diffyg gwasanaethau gofal cartref a'r capasiti sydd ar gael mewn cartrefi nyrsio / cartrefi gofal oherwydd problemau staffio yn cael effaith sylweddol ar bobl. Rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithio ar ei ddatblygiadau strategol a gweithredol mewn partneriaeth ag eraill, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r cymorth cywir mewn modd amserol.
Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod.