Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bro Morgannwg
Ym mis Ionawr 2023, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o'r adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Bro Morgannwg, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 16 Jonawr 2023.
- Arolwg ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
Gallwch chi hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.
Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.