Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Tachwedd 2022
  • Newyddion

Mae adroddiad gwerthuso gwasanaethau oedolion Cyngor Gwynedd wedi'i gyhoeddi

Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Medi 2022.

Yn ystod yr arolygiad hwn gwelsom dystiolaeth o weithwyr proffesiynol yn y tîm diogelu yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid o'r bwrdd iechyd lleol a'r heddlu, yn ogystal â thimau awdurdodau lleol ehangach, i amddiffyn oedolion sy'n wynebu risg.

Gwelsom fod gan Wynedd brinder gwasanaethau gofal cartref, sy'n cael effaith amlwg ar y broses o ddarparu gofal a chymorth yn yr awdurdod lleol. Dyma oedd yn peri'r gofid mwyaf i ymarferwyr a rheolwyr mewn gwasanaethau oedolion. Dywedodd staff wrthym am yr heriau sydd ynghlwm â rhoi cymorth i bobl i gyflawni eu canlyniadau personol yn sgil prinder adnoddau a gwelsom nad oedd digon o gapasiti i ateb y galw.

Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod.

Adroddiad arolygu gwerthuso perfformiad: gwasanaethau oedolion Cyngor Gwynedd