Mae adroddiad gwerthuso gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Fynwy wedi'i gyhoeddi
Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Gorffennaf 2022.
Diben yr arolygiad oedd adolygu gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Fynwy.
Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom fod cynnydd wedi'i wneud mewn sawl maes. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiadau i ymarfer a gwell canlyniadau i bobl.
Canfuom fod Sir Fynwy yn parhau i ddelio â phrinder gofal cartref fel y nodwyd yn ein hadroddiad arolygu yn 2019. Rydym yn ymwybodol o gynlluniau i ddatblygu dewisiadau amgen i’r model gofal cartref traddodiadol, ond mae angen sicrwydd pellach o ran comisiynu gofal cartref i bob unigolyn sydd ei angen.
Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod.