Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Awst 2022
  • Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymorth y sector gofal plant a chwarae yn ei gweledigaeth o ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sydd wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi'r nodau a'r camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff statudol a sefydliadau trydydd sector.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod angen i ni sicrhau bod lleisiau a phrofiadau byw pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nid yn unig i'w clywed, ond hefyd y gweithredir ar yr hyn y maent yn ei ddweud.

Mae'r camau arfaethedig a nodir yn y cynllun mewn perthynas â'r sector gofal plant a chwarae mewn cyfnod datblygu cynnar. Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am gymorth i ddatblygu a mireinio'r camau arfaethedig hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol posibl.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp llywio i arwain y gwaith hwn, yn ogystal â grwpiau gorchwyl a gorffen a grwpiau ffocws i ymgysylltu â rhieni a staff. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn cynnwys y rhai o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gwaith hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r gwaith hwn, e-bostiwch GofalPlantChwarae.CymruWrth-hiliol@llyw.cymru erbyn 9 Medi i gymryd rhan.